Mynydd Sinai
Gwedd
| Math | mynydd |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Sinai |
| Gwlad | Yr Aifft |
| Uwch y môr | 2,287 metr |
| Cyfesurynnau | 28.5384°N 33.9752°E |
| Amlygrwydd | 334 metr |
| Cadwyn fynydd | Sinai mountain range |
![]() | |
| Deunydd | gwenithfaen |
Mynydd a saif ar orynys Sinai yn yr Aifft yw Mynydd Sinai (Arabeg: طور سيناء, Ṭūr Sīnā’), hefyd Jabal Musa neu Gabal Musa, Hebraeg: הר סיני, Har Sinai.
Saif ger Jabal Katrina, mynydd uchaf Sinai. Gerllaw, mae Mynachlog Sant Catrin, sy'n Safle Treftadaeth y Byd. Yn draddodiadol, dyma'r mynydd lle rhoddodd Duw y Deg Gorchymyn i Moses, ond roedd traddodiad Cristnogol cynnar mai Mynydd Serbal gerllaw oedd y copa hwnnw.
Mae'r mynydd yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid, a gellir ei ddringo mewn tua dwy awr a hanner. Ar y copa mae mosg a chapel Uniongred.
Oriel
[golygu | golygu cod]- הַר סִינַי - Mynydd Sinai - جبل موسَى
