Pentagram

Oddi ar Wicipedia
Pentagram rheolaidd

Pentagram
Math Polygon seren
Ymylon a fertigau 5
Symbol Schläfli {5/2}
Grŵp cymesuredd D5 (Trefn 10)
Ongl fewnol
(graddau)
36°

Siâp seren pum pwynt a dynnwyd â phum llinell syth yw'r pentagram (hefyd: pumongl). Mae'r gair 'pentagram yn dod o'r gair Groeg πεντάγραμμος (pentagrammos) neu πεντέγραμμος (pentegrammos) sef "â phum llinell".

Defnyddiwyd pentagramau'n symbolaidd yn yr Hen Roeg ym Mesopotamia, a defnyddir y pentagram hefyd fel symbol Wica, yn debyg i'r defnydd o groes gan Gristnogion, neu Seren Dafydd gan Iddewon. Mae gan y pentagram gydgysylltiadau â dewiniaeth, ac mae llawer o bobl sy'n ymarfer crefyddau Neo-baganaidd yn gwisgo gemwaith sy'n ymgorffori'r symbol. Defnyddiwyd y pentagram gan Gristionogion i gynrychioli pum clwyf yr Iesu,[1][2] ac mae ganddo gysylltiadau â'r Seiri Rhyddion.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Erthygl "Pentagram" yn The Continuum Encyclopedia of Symbols Becker, Udo, ed., Garmer, Lance W. translator, Efrog Newydd: Continuum Books, 1994, t. 230.
  2. Signs and Symbols in Christian Art Ferguson, George, Oxford University Press: 1966, t. 59.
  3. "Order of the Eastern Star". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-12-18. Cyrchwyd 2009-12-16.
  • Grünbaum, B. a G. C. Shephard; Tilings and Patterns, Efrog Newydd: W. H. Freeman & Co., (1987), ISBN 0-7167-1193-1.
  • Grünbaum, B.; Polyhedra with Hollow Faces, Proc of NATO-ASI Conference on Polytopes ... etc. (Toronto 1993), ed T. Bisztriczky et al., Kluwer Academic (1994) tud. 43-70.
  • Hrant Arakelian. The History of the Pentagram, Ch. 6 in Mathematics and History of the Golden Section, tud. 207-270, Logos 2014, ISBN 978-5-98704-663-0 (rus.).

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: