Anwar Sadat
Anwar Sadat | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 25 Rhagfyr 1918 ![]() Mit Abu al-Kum ![]() |
Bu farw | 6 Hydref 1981 ![]() Cairo ![]() |
Dinasyddiaeth | Yr Aifft ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, swyddog milwrol ![]() |
Swydd | President of Egypt, Prime Minister of Egypt, Vice President of Egypt, Prime Minister of Egypt, President of Egypt, President of Egypt ![]() |
Plaid Wleidyddol | National Democratic Party, Arab Socialist Union ![]() |
Tad | Mohammed Sadati ![]() |
Mam | Sitt-Al-Barrein ![]() |
Priod | Eqbal Madi, Jehan Sadat ![]() |
Plant | Ruqayya Sadat, Q63105045, Q63105041, Q65042453, Q65042458, Jamal Sadat, Q65042460 ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Heddwch Nobel, Coler Urdd Isabella y Catholig, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Urdd Ojaswi Rajanya, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Medal Aur y Gyngres, Urdd Abdulaziz al Saud, Order of the Star of Nepal, Order of Mubarak the Great, Great Nile necklace, Order of the Republic ![]() |
Gwefan | http://www.anwarsadat.org ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Milwr a gwleidydd Eifftaidd oedd Anwar Sadat (25 Rhagfyr 1918 – 6 Hydref 1981) a oedd yn drydydd Arlywydd yr Aifft o 1970 hyd ei farwolaeth.
Cymerodd Sadat ran yng ngwrthryfel y Swyddogion Rhyddion yn erbyn y frenhiniaeth ym 1952. Gwasanaethodd mewn sawl swydd dan yr Arlywydd Gamal Abdel Nasser. Daeth Sadat yn arlywydd dros dro wedi marwolaeth Nasser ar 28 Medi 1970, a chafodd ei ethol i'r swydd ar 15 Hydref.
Ymosododd lluoedd yr Aifft ar Israel yn ystod Rhyfel Yom Kippur, mewn ymgais i adennill tiriogaeth Sinai a feddianwyd gan Israel ers 1967. Cafodd Gwobr Heddwch Nobel ei roi i Sadat a Menachem Begin, Prif Weinidog Israel, ym 1978 yn sgil trafodaethau heddwch rhwng yr Aifft ac Israel.
Cafodd Sadat ei lofruddio gan eithafwyr Islamaidd yn ystod gorymdaith ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog. Fe'i olynwyd gan Hosni Mubarak.