Yr Ymerodraeth Brydeinig

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Ymerodraeth Prydain)
Yr Ymerodraeth Brydeinig
Enghraifft o'r canlynolgwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
Daeth i ben1997 Edit this on Wikidata
Label brodorolBritish Empire Edit this on Wikidata
Poblogaeth680,000,000 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1583 Edit this on Wikidata
Map
RhagflaenyddEnglish overseas possession Edit this on Wikidata
Enw brodorolBritish Empire Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yr Ymerodraeth Brydeinig oedd yr ymerodraeth ehangaf a welwyd yn hanes y byd. Am ddwy ganrif roedd yn tra-arglwyddiaethu dros weddill y byd. Mae ei gwreiddiau yn gorwedd yng ngoresgyniad y gwledydd Celtaidd gan Loegr a thwf grym morwrol y wlad honno o ddiwedd yr Oesoedd Canol ymlaen. Tramor sefydlai'r Saeson nifer o drefedigaethau - rhai cymharol bychain i ddechrau - mewn cystadleuaeth â gwledydd Ewropeaidd eraill yn "Oes y Darganfod" yn Ewrop, o'r 15g ymlaen. Roedd gan Ffrainc, Portiwgal, Yr Iseldiroedd a Sbaen eu tiriogaethau tramor hefyd, ond yn ystod y 18g tyfodd y Brydain Fawr newydd i feddiannu mwy na'r lleill i gyd, trwy rym arfau neu gytundebau economaidd.

Erbyn 1921 roedd yr Ymerodraeth yn rheoli poblogaeth o tua 458 miliwn o bobl, sef o gwmpas chwarter poblogaeth y byd ar yr adeg honno. Roedd tua 33 miliwn km² (14.2 miliwn milltir sgwar) yn goch ar y map, o gwmpas chweched ran o arwynebedd y Ddaear.

Yr Ymerodraeth Brydeinig yn 1897

Prif ddigwyddiadau[golygu | golygu cod]

Cecil Rhodes fel "Colossus Rhodes" yn stradlu Affrica "o Gairo i Cape Town"

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Niall Ferguson, Empire: The Rise and Demise of the British World Order and the Lessons for Global Power (2002)
  • Ronald Hyam, Britain's Imperial Century, 1815-1914: A Study of Empire and Expansion (Macmillan, 1993)
  • Lawrence James, The Rise and Fall of the British Empire (St. Martin's Griffin, 1997)
  • Hefin Jones, Celwydd a Choncwest (Gwasg Carreg Gwalch, 2016).
  • Denis Judd, Empire: The British Imperial Experience, From 1765 to the Present (Llundain, 1996)
  • T.O. Lloyd, The British Empire, 1558-1995 (Oxford University Press, 1996)
  • Roger William Louis, (gol.), The Oxford History of the British Empire, 5 cyf. (Rhydychen, 1998–99)
  • P.J. Marshall (gol.), The Cambridge Illustrated History of the British Empire (Caergrawnt, 1996)
  • James S. Olson a Robert S. Shadle, Historical Dictionary of the British Empire (1996)
  • J. Holland Rose, A. P. Newton ac E. A. Benians (gol.), The Cambridge History of the British Empire, 9 cyf. (Caergrawnt, 1929–61)
  • Simon C. Smith, British Imperialism 1750-1970 (Caergrwant, 1998)

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]