Dominiwn

Oddi ar Wicipedia

Gwlad neu drefedigaeth hunanlywodraethol o fewn yr Ymerodraeth Brydeinig oedd dominiwn. Ymddangosodd statws arbennig y tiriogaethau hyn drwy broses yn hanner cyntaf yr 20g. Erbyn y 1930au, roedd statws dominiwn gan Awstralia, Canada, De Affrica, Iwerddon Rydd, Newfoundland, a Seland Newydd. Roedd y rhain i gyd, ac eithrio Newfoundland, yn aelodau Cynghrair y Cenhedloedd.

Nid oedd Gwladwriaeth Rydd Iwerddon (1922–37) yn fodlon â'i statws dominiwn, a chafodd y cyfansoddiad ei adolygu ym 1936 i ddileu'r holl gyfeiriadau at y teyrn Prydeinig. Roedd union statws Iwerddon Rydd rhywfaint yn ansicr nes 1949, pan ddaeth yn Weriniaeth Iwerddon. Collodd Newfoundland ei statws dominiwn ym 1934 oherwydd problemau ariannol, a bu statws y diriogaeth honno yn ansicr nes iddi ymuno â Chanada ym 1949. Yn yr un flwyddyn, cytunodd pob un arall o'r dominiynau a'r Deyrnas Unedig i ymwrthod â'r enw.

O 1925 i 1947, Swyddfa'r Dominiynau oedd yn gyfrifol am gysylltiadau rhwng llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r dominiynau.