Neidio i'r cynnwys

Cecil Rhodes

Oddi ar Wicipedia
Cecil Rhodes
GanwydCecil John Rhodes Edit this on Wikidata
5 Gorffennaf 1853 Edit this on Wikidata
Bishop's Stortford Edit this on Wikidata
Bu farw26 Mawrth 1902 Edit this on Wikidata
o methiant y galon Edit this on Wikidata
Muizenberg Edit this on Wikidata
Man preswylKimberley Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethentrepreneur, gwleidydd, economegydd, fforiwr, gwladychwr, noddwr y celfyddydau Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Gyfrin Gyngor yr Iwerddon, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Prime Minister of the Cape Colony, Prime Minister of the Cape Colony Edit this on Wikidata
llofnod

Dyn busnes, perchennog mwyngloddiau a gwleidydd o Loegr oedd Cecil John Rhodes (5 Gorffennaf 185326 Mawrth 1902), a chwaraeodd ran allweddol yn hanes Affrica ddeheuol ar ddiwedd y 19eg ganrif. Cafodd ei anfon i Dde Affrica gan ei dad ac ymgartrefodd yno. Sefydlodd gwmni cloddio deiamwntau De Beers yn 1888 a daeth yn un o'r dynion cyfoethocaf yn y byd. Credai'n gryf mewn coloneiddio a rhan y dyn gwyn mewn hanes. Bu'n bennaf gyfrifol am goloneiddio Rhodesia (Sambia a Simbabwe heddiw), sy'n dwyn ei enw.

Roedd Rhodes eisiau ehangu'r Ymerodraeth Brydeinig am ei fod yn credu bod y Saeson a phobl gwyn "Eingl-Sacsonaidd" eraill wedi eu tynghedu i reoli'r byd. Yn ei ewyllys, dywedodd Rhodes am y Prydeinwyr, "I contend that we are the finest race in the world and that the more of the world we inhabit the better it is for the human race." Ei freuddwyd oedd creu pŵer mawr o'r Ymerodraeth Brydeinig gyda gwledydd "gwyn" yr ymerodraeth yn cynnwys Canada, Awstralia, Seland Newydd, a'r Cape Colony, yn cael eu cynrychioli yn Senedd Prydain. Dymunodd yn ogystal weld dosbarth newydd o Americanwyr deallus, diolch i'r Ysgoloriaethau Rhodes, a fyddai'n dod â'r Unol Daleithiau i mewn i'r Ymerodraeth Brydeinig. Edmygai'r kaiser a'r Almaenwyr yn ogystal. Ei weledigaeth fawr oedd gweld Prydain Fawr, yr Unol Daleithiau a'r Almaen yn ymuno â'i gilydd i ddominyddu'r byd.[1]

Plentyndod

[golygu | golygu cod]

Mab i'r Parchedig Francis Rhodes oedd Cecil Rhodes. Ganed ef ym mhentre Bishop's Stortford yn Swydd Hertford ym 1853.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. John Flint, Cecil Rhodes (1974). ISBN 0-316-28630-3.
  2. Jaqueline Cooper, Bishop's Stortford: A History (2005). ISBN 1-86077-329-X.