Brwydr Plassey
| Enghraifft o: | brwydr |
|---|---|
| Dyddiad | 23 Mehefin 1757 |
| Lleoliad | Palashi |
![]() | |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/025bvx |
| Quora | Battle-of-plassey-june-1757 |

Ymladdwyd Brwydr Plassey ar 23 Mehefin 1757, ger tref Plassey ym Mengal, gogledd-ddwyrain India. Curodd y lluoedd Prydeinig dan y cadfridog Robert Clive ("Clive o India") fyddin Surajah Dowlah, Nawab Bengal.
Roedd y Nawab ac eraill wedi codi mewn gwrthryfel yn erbyn y Prydeinwyr a Chwmni Dwyrain India gan gipio Calcutta. Ail-gipiodd Clive y ddinas honno, lle carcharwyd tua chant o bobl yn y "Twll Du" enwog, o ddwylo'r gwrthryfelwyr cyn mynd yn ei flaen i gwrdd â'r gwrthryfelwyr ger Plassey. Un o'r rhesymau am ei fuddugoliaeth oedd brad rhai o gadfridogion y nawab dan arweinyddiaeth Mir Jafar a aethant drosodd i'r ochr fuddugol yn ystod y frwydr.
Canlyniad pwysicaf y frwydr oedd cadarnhau ac ymestyn rheolaeth Prydain ar ddwyrain India, yn wyneb cystadleuaeth gan Ffrainc (roedd Prydain a Ffrainc yn ymladd y Rhyfel Saith Mlynedd yn Ewrop yr adeg honno yn ogystal). Gosodwyd un o gonglfeini'r Ymerodraeth Brydeinig, sef reolaeth ar is-gyfandir India i gyd erbyn diwedd y 18g.
Ffynhonnell
[golygu | golygu cod]- Gwefan Saesneg About.com Archifwyd 2013-04-04 yn y Peiriant Wayback
