Robert Clive
Robert Clive | |
---|---|
![]() Clive o India ar ôl Brwydr Plassey, llun olew gan Francis Hayman | |
Ganwyd |
29 Medi 1725 ![]() Swydd Amwythig ![]() |
Bu farw |
22 Tachwedd 1774 ![]() Achos: gwaediad ![]() Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth |
Teyrnas Prydain Fawr ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
gwleidydd, swyddog ![]() |
Swydd |
Member of the 11th Parliament of Great Britain, Member of the 12th Parliament of Great Britain, Member of the 13th Parliament of Great Britain, Member of the 14th Parliament of Great Britain ![]() |
Tad |
Richard Clive ![]() |
Mam |
Rebecca Gaskell ![]() |
Priod |
Margaret Clive ![]() |
Plant |
Edward Clive, 1st Earl of Powis, Richard Clive, Jane Clive, Rebecca Clive, Charlotte Clive, Margaret Clive, Elizabeth Clive, Robert Clive ![]() |
Gwobr/au |
Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol ![]() |
Milwr a gweinyddwr enwog o Sais oedd Robert Clive neu'r Barwn Clive o Plassey (29 Medi 1725 - 22 Tachwedd 1774), a aned ger Market Drayton yn Swydd Amwythig. Ei enw poblogaidd o "Clive o India".
Chwareai ran bwysig yn hanes cynnar Cwmni Dwyrain India. Treuliodd dri chyfnod yn India. Yn ei ail dymor yn y wlad (1753–1760) daeth yn enwog am ei ran yn ail-gipio dinas Calcutta o ddwylo'r gwrthryfelwyr ac yn ddiweddarach am ei fuddugoliaeth enwog yn erbyn Surajah Dowlah, Nawab Bengal, ym Mrwydr Plassey (1757). Am gyfnod roedd yn rheolwr de facto ar Fengal i gyd. Ar ôl dychwelyd i Loegr yn 1760 cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Amwythig yn 1761 a'i urddo'n farwn gan William Pitt "yr Iau". Yn ei drydydd dymor yn India gosododd sylfeini rheolaeth Prydain ar y wlad i gyd. Cyflawnodd hunanladdiad yn 1774 yn sgîl ffrae hir-dymor am ei weinyddiaeth ar y Cwmni.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Burhan Ibn Hasan, Tuzak-I-Walajahi (Prifysgol Madras, 1934)
- H.E.Busteed, Echoes from Old Calcutta (Calcutta, 1908)
- A. Mervyn Davies, Clive of Plassey (Llundain, 1939)
- Michael Edwardes, The Battle of Plassey and the Conquest of Bengal (Llundain, 1963)
- Mark Bence-Jones, Clive of India (Llundain, 1974)
- Thomas Babington Macaulay, "Lord Clive" yn Essays (Llundain: Longman's, Green & Co, 1891), tt. 502-547.
- P.J. Marshall, Bengal, The British Bridgehead: Eastern India 1740-1828 (Caergrawnt, 1988)