Masarnen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Acer pseudoplatanus
Dail y fasarnen
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosperms
Ddim wedi'i restru: Eudicots
Ddim wedi'i restru: Rosids
Urdd: Sapindales
Teulu: Sapindaceae
Genws: Acer
Rhywogaeth: A. pseudoplatanus
Enw deuenwol
Acer pseudoplatanus
L.
Acer pseudoplatanus

Masarnen neu Jacmor, Acer pseudoplatanus (Saesneg: Sycamore neu Sycamore Maple).

Rhywogaeth o fasarnen sy'n frodorol i Ewrop ac de-orllewin Asia. Taldra hyd at 35 m.[1]

Defnyddir ei sudd i wneud surop masarn.

Ffenoleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafwyd casgliad-benthyg o gyfres o ddyddiaduron gan ffermwr ALlJ (nid yw am i ni gyhoeddi ei enw) o waelod Harlech. Mae’r cofnodion yn drwyadl iawn ac mae ynddynt aml i gofnod tymorol cyson o’r gog yn canu am y tro cyntaf ar wennol yn cyrraedd. Y math mwyaf cyson o gofnod sydd ganddo yw cyfres hir o ddyddiadau deilio UN fasarnen ym muarth y fferm. Gosodwyd y cofnodion hyn fel graff (isod). Mae'n awgrymu bod deilio hwyr yn cydfynd efo gwanwyn "hwyr" a deilio cynnar yn cydfynd efo gwanwyn "cynnar". Mae'r graff hefyd yn awgrymu (ond heb sail ystadegol cryf) bod y fasarnen yn tueddu i ddeilio'n gynt yn ddiweddarach (llinell yn gwyro at i lawr i'r dde).[2]

Graff yn dangos cyfres hir (1954-2006) o ddyddiadau “deilio cyntaf” un fasarnen yng ngwaelodion Harlech gan ALlJ.
Deilen newydd masarnen

Enwau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae’r goeden gyflwynedig hon yn dwyn mwy o enwau Cymraeg na‘n holl goed cynhenid Ar wahan i masarnen mae jacmor sy’n dalfyriad o sycamor, a jacan yn dalfyriad o hwnnw.[angen ffynhonnell]  Mae “sycamor” yn tarddu o sycamor y Beibl, coeden gwahanol iawn. Fe barchuswyd yr enw yn ddiweddarach fel ”sycamorwydden”[angen ffynhonnell]. Mae peth tystiolaeth bod yr enw yn amharchus.

[Dyfyniad y Beibl]

Nov.14th 11 The Wind E.S.E. very cold, dark & cloudy, did not freeze but thawed very gently, finished to day pruning the trees in Cae ty'n y LLwyn, except the great Maple (vulgarly called Sicamore) which I reserve till spring..[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Llyfr Natur Iolo | Paul Sterry | Addasiad gan Iolo Williams a Bethan Wyn Jones | Gwasg Carreg Galch | 12/9/2012 | Cymraeg
  2. Bwletin Llên Natur rhifyn 51
  3. Dyddiadur William Bulkeley, Brynddu, Llanfechell, Môn (gyda chaniatad Adran Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor), 14 Tachwedd 1734