Pioden
Pioden | |
---|---|
![]() | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Corvidae |
Genws: | Pica |
Rhywogaeth: | P. pica |
Enw deuenwol | |
Pica pica (Linnaeus, 1758) |

Mae'r Bioden (Pica pica) yn aelod o deulu'r brain, y Corvidae. Mae'n aderyn cyffredin trwy Ewrop, rhan helaeth o Asia, a gogledd-orllewin Affrica. Ceir nifer o is-rywogaethau, ac mae rhai o'r farn y dylai rhai ohonynt, er enghraifft P. p. sericea o Corea, gael eu hystyried yn rhywogaethau ar wahân. Mae'n aderyn cyffredin iawn yng Nghymru, ac mae ei niferoedd wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf.
Gellir adnabod y Bioden yn hawdd, gyda'i phlu du a gwyn a'r gynffon hir. Mae'r pen, gwddf a bron yn ddu gyda gwawr wyrdd, a'r adenydd a'r gynffon hefyd yn ddu, gyda'r gweddill o'r aderyn yn wyn. Mae yn 40–51 cm o hyd. gyda'r gynffon yn 20–30 cm o hyd. Mae'r alwad hefyd yn tynnu sylw. Yn aml gwelir nifer o'r adar yma gyda'i gilydd, er nad ydynt yn casglu'n heidiau mawr.
Gall y Bioden fwyta bron unrhyw beth, yn cynnwys anifeiliaid wedi marw ac wyau neu gywion adar eraill, ond mae hefyd yn bwyta grawn. Mae wedi manteisio ar y nifer o anifeiliaid marw ar ochrau'r ffyrdd. Adeiledir y nyth mewn coeden. Mae'r nyth yn wahanol i nythod y rhan fwyaf o deulu'r brain gan fod tô arno, gyda twll i fynd i mewn ar un ochr.
Ystyrir y bioden fel un o'r anifeiliaid mwyaf deallus, gyda'i nidopaliwm (rhan o'r ymennydd) bron cymaint â bod dynol.[1]
Enwau lleoedd[golygu | golygu cod]
'Pia' yw gair rhai ardaloedd am bioden (cf. Llwynypia). Yn ôl Cronfa Melville Richards [1] yn siroedd y de mae pob enw lle yn dwyn y ffurf 'pia', pob un yn gloleddfu nodwedd tir. Ar gyrion Llandudno mae 'Bryn y Bia' gyda rhai Saeson am ei alw'n Magpie Hill! Cofnodir Brynybya yn (Thorne MS yn yr un gronfa) yn 1526 a dywed Gareth Pritchard[2] mai 'Bryn y Bwau' oedd yr enw gwreiddiol (onid Bryn Pia heb dreiglad fyddai’n ramadegol gywir i olygu’r aderyn?), a hynny yn sgîl brwydr, o bosib' yn amser y Rhufeiniaid.[angen ffynhonnell]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "Lesley J. Rogers dalen 9"
- ↑ Bwletin Llên Natur rhifyn 47
- ↑ Emery, N.J.; Clayton, N.S. (2004). "Comparing the complex cognition of birds and primates". In Rogers, L.J.; Kaplan, G.T. (gol.). Comparative vertebrate cognition: are primates superior to non-primates?. New York: Kluwer Academic. tt. 9, 3–56. ISBN 978-0-306-47727-0.