Dimensiwn
Mewn ffiseg a mathemateg, mae dimensiwn gofod neu wrthrych yn cael ei ddiffinio'n anffurfiol fel yr isafswm o gyfesurynnau sydd eu hangen i bennu unrhyw bwynt oddi fewn i'r gofod (neu wrthrych).
Felly:
- Un dimensiwn: mae gan linell ddimensiwn o un oherwydd mai dim ond un cyfesuryn sydd ei angen i bennu pwynt arno e.e. y pwynt 5 ar linell rif.
- Dau ddimensiwn: mae gan arwyneb fel plân, silindr neu sffêr ddimensiwn o ddau - oherwydd bod angen dau gyfesuryn i bennu pwynt arno - e.e. mae angen lledred a hydred i ddod o hyd i bwynt ar wyneb sffêr.
- Tri dimensiwn: mae tu mewn ciwb, silindr neu sffêr yn dri dimensiwn oherwydd bod angen tri chyfesuryn i leoli pwynt o fewn y gofod hwn.
Dimensiwn gofodol
[golygu | golygu cod]Mae damcaniaethau ffiseg clasurol yn disgrifio tri dimensiwn ffisegol. O bwynt y gofod, gallwn symud, yn ffisegol, i dri chyfeiriad: i fyny / i lawr, i'r chwith / i'r dde, ac ymlaen / yn ôl. Gellir mynegi pob symudiad i gyfeiriad arall yn nhermau'r tri hyn. Mae symud i lawr yr un peth â symud i fyny pellter negatif ayb. Mae symud yn groeslin i fyny ac ymlaen yn union fel y mae enw'r cyfarwyddyd yn ei awgrymu; hynny yw, symud mewn cyfuniad llinellol o fyny ac ymlaen. Yn ei ffurf symlaf: mae llinell yn disgrifio un dimensiwn, mae plân yn disgrifio dau ddimensiwn, ac mae ciwb yn disgrifio tri dimensiwn.
Sawl
dimensiwn |
Systemau cyfesurynnol | |||
---|---|---|---|---|
1 |
| |||
2 |
| |||
3 |
|