Silindr

Oddi ar Wicipedia
Tun ffa-pob gwag.

Mae silindr (enw gwrywaidd) yn siâp geometrig solid eitha cyffredin. Fe'i ceir o'n cwmpas o ddydd i ddydd e.e. tun ffa pob, bwrn mawr o wair neu'r rhan hir o'r gwn. Daw o'r gair Groeg am 'rholiwr', sef κύλινδρος – kulindros.[1]

Arferid dweud fod silindr yn hollol solid, ee y tun ffa-pob heb ei agor (gyda chaead a gwaelod) ond mae'r diffiniad mathemategol wedi newid i edrych ar y silindr fel arwyneb cromlinog anfeidraidd. Yn yr erthygl hon disgrifir y ddau ystyr i silindr: y solid a'r arwyneb, ac at dryddydd, sef y silindr crwn gydag ongl sgwâr.

Uchder y silindr yw hyd y perpendicwlar sydd rhwng ei sylfaeni (y top a'r gwaelod).

Cyfaint[golygu | golygu cod]

Os yw radiws r sylfaen y silindr cylch a'i uchder yn h, yna gellir cyfrifo'r cyfaint gyda'r hafaliad]]:

V = πr2h.

Oriel[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. κύλινδρος Archifwyd 2013-07-30 yn y Peiriant Wayback., Henry George Liddell, Robert Scott, A Greek-English Lexicon, ar Perseus