Llinell rif

Oddi ar Wicipedia

Mewn mathemateg sylfaenol, mae llinell rif yn ddarlun o linell geometrig, syth, graddedig sy'n cynrychioli rhifau real, ac a ddynodir gan . Tybir bod pob pwynt are y linell yn cyfateb i rif real, a phob rhif real yn cyfateb i bwynt.[1]

Mae'r cyfanrifau yn aml yn cael eu dangos fel pwyntiau wedi'u marcio'n arbennig a'u gosod yn drefnus gyda'r gofod rhyngddynt yn gyfartal. Er nad yw'r ddelwedd hon ond yn dangos yr holl gyfanswm o -9 i 9, mae'r llinell mewn gwirionedd yn cynnwys yr holl rifau real, gan barhau am byth ym mhob cyfeiriad. Mae hefyd yn cynnwys y rhifau sydd heb eu marcio rhwng y cyfanrifau e.e. 1.5 neu 1.57. Fe'i defnyddir yn aml fel cymorth wrth addysgu adio a thynnu syml, yn enwedig fel canllaw er mwyn egluro rhifau negyddol. Canllaw tebyg yw'r thermomedr.

Mewn mathemateg pellach, mae'r termau llinell rif real, neu linell real yn cael eu defnyddio fel arfer i nodi'r cysyniad uchod fod pob pwynt ar linell syth yn cyfateb i un rhif real, a'r gwrthwyneb.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Stewart, James B.; Redlin, Lothar; Watson, Saleem (2008). College Algebra (arg. 5th). Brooks Cole. tt. 13–19. ISBN 0-495-56521-0.