Baner Serbia

Oddi ar Wicipedia
Baner Serbia

Baner drilliw o'r lliwiau pan-Slafaidd, coch, glas a gwyn, ac arfbais Serbia yn y canol yw baner Serbia. Mabwysiadwyd y dyluniad presennol fel baner Serbia ar 16 Awst 2004. Pan ddiddymwyd ffederasiwn Serbia a Montenegro yn 2006, fe'i defnyddiwyd fel baner gweriniaeth annibynnol Serbia hefyd.

Eginyn erthygl sydd uchod am Serbia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.