Baner Abchasia

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Baner Abkhazia)
Baner Abchasia

Mae gan faner Abchasia saith stribed llorweddol, pedwar yn wyrdd a thri yn wyn, gyda llaw-dde wen â saith seren wen mewn arc uwch ei phen ar gefndir coch yn y canton.

Gweriniaeth Abchasia[golygu | golygu cod]

Crewyd baner Gweriniaeth Abchasia yn 1991 gan V. Gamgia.[1] Mabwysiadwyr yn swyddogol ar 23 Gorffennaf 1992.[2] Mae cynllun y llaw goch canton wedi ei seilio ar faner Gano Oesol Brenhiniaeth Abkhazia. Mae'r llaw agored yn golygu "Helo i Gyfeillion! Stop i Elynion!".[3] Mae'r saith seren yn y caton wedi eu ail-ddadansoddi i gyfeisio at y saith rhanbarth hanesyddol yn y wlad - Sadzen, Bzyp, Gumaa, Abzhywa, Samurzaqan, Dal-Tsabal and Pskhuy-Aibga.[4]

Mae'r saith streipen gwyrdd a gwyn wedi eu seilio ar Weriniaeth Fynyddyg Gogledd y Cawcasws, yr ystyriodd Abkhazia ei bod yn rhan ohono wedi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae saith hefyd yn rhif cysegredig i'r Abkhaziaid ac mae'r gwyrdd a'r gwyn yn cynrychioli goddefgarwch Cristnogaeth ac Islam i gyd-fyw gyda'i gilydd.[5]

Gweriniaeth Hunanlywodrathol Abkhazia[golygu | golygu cod]

Mae Gweriniaeth Hunanlywodraethol Abkhazia sydd o dan reolaeth Llywodraeth Georgia (sy'n hawlio bod Abkhazia yn rhan o'i thiriogaeth) yn defnyddio baner sy'n cyfuno baner Jeorojia gyda streipiau gwyrdd a gwyn y Abkhazia annibynnol.[6]

Baneri Hanesyddol[golygu | golygu cod]

Gweriniaeth Sofiet Sosialaidd Abkhazia[golygu | golygu cod]

Mabwysiadwyd baner GSS Abkhazia yn 1925 pan basiodd Gweriniaeth Sofiet Sosialaidd Abkazia ei chyfansoddiad. Arddelwyd hi nes 1931, pan di-raddwyd statws Abkhazia i Weriniaeth Awtomanaidd Sofiet Sosialaidd Abkhazia gyda baner wahanol.

Gweriniaeth Awtomanaidd Sofiet Sosialaidd Abkhazia[golygu | golygu cod]

Cyflwynyd y faner hon o'r Weriniaeth Awtomanaidd Sofiet Sosialaidd Abkhazia yn 1978 a'i defnyddio nes cwymp yr Undeb Sofietaidd yn 1991. Roedd y faner flaenorol a ddefnyddwyd rhwng 1931 ac 1978 union yr un fath i faner GSS Georgia ac yn 1978 ychwanegwyd yr enw GASS Abkhazia wedi ei hysgrifennu yn yr iaith Abkhaz a gwyddor Abkhaz iddi.

Oriel[golygu | golygu cod]

Diwrnod y Faner[golygu | golygu cod]

Dynodwyd 23 Gorffennaf fel 'Diwrnod y Faner'. Ar 23 Gorffennaf 1992, cymeradwyodd Goruchaf Gyngor Abkhazia Faner Genedlaethol ac Arfbais Gweriniaeth Abkhazia. Dyluniwyd y symbolau hyn gan yr arlunydd Valery Gamgia, gan dynnu ysbrydoliaeth o faner Gweriniaeth Fynyddig Gogledd Cawcasws 1918. Cymeradwywyd Baner Wladwriaeth fodern Abkhazia yn ystod sesiwn o Gyngor Goruchaf y Weriniaeth yng nghanol gwrthdaro llawn tyndra rhwng carfanau Abkhaz a Sioraidd y dirprwyon. Daeth yr artist Valery Gamgia â fersiynau amrywiol o'r faner i'w hadolygu gan y comisiwn seneddol, y mae ei aelodau hefyd wedi awgrymu addasiadau. Cymeradwywyd fersiwn derfynol y faner gan Vladislav Ardzinba, Cadeirydd Cyngor Goruchaf ASSR Abkhaz. Ar ôl ei chymeradwyo, cyflwynwyd y faner sidan, sy'n mesur 1.5 metr wrth 70 centimetr, mewn cyfarfod cyhoeddus yn Sukhum.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Аргун Ю.Г. (Argun Yu. G.), О Государственном флаге Archifwyd 2007-09-28 yn y Peiriant Wayback. (On the state flag) (XLVIII итоговая научная сессия (11-13 мая). тезисы докладов. - Сухум: АбИГИ, 2004, с. 3-4)
  2. "Abkhazia (Georgia)". FOTW Flags Of The World. 2009-08-15. Cyrchwyd 2010-31. Check date values in: |accessdate= (help)
  3. http://www.ahakuytra.com/abhazya-sehitleri/247-abhazya-bayraginin-anlami.html
  4. "Государственные символы". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-28. Cyrchwyd 2015-12-11.
  5. "Abkhazia Flag from the Flags of the World Database". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-19. Cyrchwyd 2015-12-11.
  6. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-06-16. Cyrchwyd 2015-12-11.
  7. "The Story of Abkhazia's Flag: A Symbol of Independence". Gwefan Abkhaz World. 23 Gorffennaf 2023.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Nodyn:Baneri Cenedlaethol

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Georgia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.