Baner Wcráin

Oddi ar Wicipedia
Baner Wcráin
Enghraifft o'r canlynolbaner cenedlaethol Edit this on Wikidata
Lliw/iauglas, melyn Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu28 Ionawr 1992 Edit this on Wikidata
Genrehorizontal bicolor flag Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Baner Wcráin

Baner ddeuliw lorweddol gyda stribed uwch glas i gynrychioli'r awyr a stribed is melyn i gynrychioli caeau grawn y wlad yw baner Wcráin. Baner swyddogol y wlad oedd hi yn 1918 a 1919 yn ystod cyfnod byr o annibyniaeth. Ar ôl goresgyniad y Fyddin Goch daeth y wlad yn weriniaeth Sofietaidd a chafodd y faner ei gwahardd nes meddiannaeth Almaenig o 1941 i 1944. Gwaharddwyd eto gan yr Undeb Sofietaidd yn dilyn y rhyfel; mabwysiadwyd ar 4 Medi, 1991 pan enillodd y wlad annibyniaeth unwaith eto.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
Eginyn erthygl sydd uchod am Wcráin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.