Baner Tsiecia

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Baner y Weriniaeth Tsiec)
Baner Tsiecia

Baner ddeuliw lorweddol gyda stribed uwch gwyn a stribed is coch gyda thriongl glas yn y hoist yw baner Tsiecia. Lliwiau herodrol Bohemia yw gwyn a choch, a glas yw lliw Morafia. Mae'r tebygrwydd i liwiau Pan-Slafaidd yn gyd-ddigwyddiad. Mabwysiadwyd ar 30 Mawrth 1920 gan Tsiecoslofacia, a chafodd ei chadw gan y Weriniaeth Tsiec fel ei baner genedlaethol yn dilyn diddymiad Tsiecoslofacia ar 1 Ionawr 1993 (mabwysiadodd Slofacia faner newydd).

Baner ddeuliw gyda stribed uwch gwyn a stribed is coch oedd baner gyntaf Tsiecoslofacia, ond ychwanegwyd y triongl glas er mwyn ei gwahaniaethu o faner Gwlad Pwyl.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Complete Flags of the World (Dorling Kindersley, 2002)