Baner Bwlgaria
Delwedd:Flag of Bulgaria.svg, Flag of Bulgaria (digital).svg | |
Enghraifft o'r canlynol | baner cenedlaethol |
---|---|
Lliw/iau | gwyn, gwyrdd, coch |
Dechrau/Sefydlu | 16 Ebrill 1879 |
Genre | horizontal triband |
Gwladwriaeth | Bwlgaria |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae baner Bwlgaria yn faner drilliw: gwyn ar y top, gwyrdd yn y canol a choch ar y gwaelod. Mae hi'n dyddio i'r cyfnod 1861–2, pryd defnyddiwyd baner gwyrdd, gwyn a choch (yn y drefn honno) gan y Lleng Fwlgaraidd (mintai milwrol o wirfoddolwyr Bwlgaraidd yn Serbia). Mae'r faner yn ymddangos gyntaf â'i lliwiau yn eu trefn bresennol yn 1877 gyda gwirfoddolwyr Bwlgaraidd yn y rhyfel yn erbyn yr Ymerodraeth Otoman. Ar ôl rhyddhâd Bwlgaria o'r Ymerodraeth Otoman mabwysiadwyd y faner ar ei gwedd bresennol fel baner swyddogol y wlad ar 16 Ebrill 1879.
Pan gymerodd y Blaid Gomiwynyddol rym ym Mwlgaria yn 1947, ychwanegwyd arfbais Gweriniaeth Pobl Bwlgaria yn nghornel chwith uchaf y faner. Parhaodd hyd 27 Tachwedd 1990, pryd newidiwyd y cyfansoddiad i ddisodli'r arfbais.