Baner drilliw lorweddol gyda stribed uwch glas, stribed is gwyrdd, a stribed canol coch gyda chilgant a seren wyth-pwyntgwyn yn ei ganol yw baner Aserbaijan. Lliw a gysylltir â'r pobloedd Tyrcaidd yw glas, mae coch yn cynrychioli dylanwad Ewropeaidd yn y wlad, a gwyrdd yw lliw traddodiadol Islam: mae'r lliwiau yn cynrychioli arwyddair Aserbaijan i "Dyrceiddio, Islameiddio, ac Ewropeiddio" (nid yw hyn yn arwyddair cenedlaethol swyddogol). Symbol Islam yw'r cilgant a'r seren; mae pob pwynt ar y seren yn cynrychioli pobl Dyrcaidd. Daeth yr ysbrydoliaeth am y cilgant a'r seren o faner Twrci. Defnyddiwyd y faner yn gyntaf (gyda'r cilgant a seren yn y hoist ac yn gorgyffwrdd â'r tri stribed) yn y cyfnod byr o annibyniaeth fel Gweriniaeth Ddemocrataidd Aserbaijan rhwng 1918 a 1920,[1] ac yn ystod cyfnod Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Aserbaijan defnyddiwyd amrywiadau ar y Faner Goch. Yn dilyn cwymp UGSS mabwysiadwyd y faner gyfredol ar 5 Chwefror, 1991.
Baner Gweriniaeth Ddemocrataidd Aserbaijan, 1918–1920
Baner Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Aserbaijan, 1920–1921
Dynodir gwlad anghydnabyddedig neu a gydnabyddir yn rhannol gan lythrennau italig. 1 Cydnabyddir gan Dwrci yn unig. 2 Gyda'r mwyafrif o'i thir yn Affrica. 3 Yn Ne Orllewin Asia yn gyfan gwbwl, ond ystyrir yn rhan o Ewrop am resymau hanesyddol, gwleidyddol, ac/neu diwylliannol. 4 Yn rhannol neu ddim o gwbwl yn Ewrop, yn dibynnu ar ddiffiniadau'r ffiniau rhwng Ewrop ac Asia. 5 Ystyrid weithiau yn rhan o Oceania. 6 Gyda lleiafrif o'i thir yn Asia. 7 Ystyrid ynysfor Socotra yn rhan o Affrica. 8 Gweinyddir gan Weriniaeth Pobl Tsieina. 9 Nid yn llwyr annibynnol.