Neidio i'r cynnwys

Baner Wsbecistan

Oddi ar Wicipedia
Baner Wsbecistan
Enghraifft o:baner cenedlaethol Edit this on Wikidata
Lliw/iauglas, gwyn, gwyrdd, coch Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu18 Tachwedd 1991 Edit this on Wikidata
Genrehorizontal triband Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/02c2y7 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Baner Wsbecistan

Cafodd baner Wzbecistan ei chomisiynu'n swyddogol ar 18 Tachwedd 1991.[1] Mae'r faner yn dangos tri llwybr llorweddol o'r brig i'r gwaelod mewn glas, gwyn a gwyrdd, gydag ymylon coch rhyngddynt a lleuad cilgant a deuddeg seren yn y gornel uchaf ger y mast. Mae Wsbecistan yn gyn-weriniaeth fu'n rhan o'r Undeb Sofietaidd, gyda'i iaith yn perthyn i teulu ieithyddol Twrcaidd yng nghanolbarth Asia.

Symbolaeth

[golygu | golygu cod]
Baner Arlywydd Wsbecistan

Mae gan liwiau a symbolau'r faner ystyron diwylliannol, gwleidyddol a rhanbarthol.

Gwyn - heddwch a phurdeb
Glas - dŵr a'r aer. Mae'r glas hefyd yn cyfeirio at y brenin Timor a reolodd dros Wsbecistan cyfoes yn y 14eg ganrif.[2][3]
Gwyrdd - natur a ffrwythlondeb, ond gall hefyd fod yn gynrychiolaeth o Islam.
Ymylon Coch - bywiogrwydd yr Wsbeciaid.
Lleuad cilgant yn y gornel yn cofio aileni Uzbekistan fel gwlad annibynnol.[4] Mae hefyd yn awgrymu bod y grefydd Islamaidd sy'n cynrychioli 88% o'r boblogaeth.[5]
12 Seren - misoedd y calendr Islamaidd yn ogystal â'r Sidydd.[2][3]
Baner GSS Wsbecistan fel rhan o'r Undeb Sofietaidd gomiwnyddol, 1952 - 1991
Baner Wsbecistan, gorymdaith Pride Efrog Newydd, 2017

Ar ôl sefydlu Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd (SSR) yr Wsbeciaid yn 1925 fel rhan o'r Undeb Sofietaidd, defnyddiwyd nifer o faneri coch gydag arysgrif aur o enw'r endid gwleidyddol tan 1952. Roedd yr amrywiad cyntaf a ddefnyddiwyd o 22 Gorffennaf 1925, yn cynnwys arysgrif, talfyriad o weriniaeth Sofietaidd Sosialaidd Usbec, mewn Arabeg a Yr Wyddor Cyrilic.

O 9 Ionawr 1926, disodlwyd yr wyddor Arabeg gyda'r wyddor Yr wyddor Ladin ar ffurf orgraff newydd y Twrceg. O dan yr arysgrif Rwsiaidd, roedd arysgrif wedi'i mewn Tajiceg gan fod cymuned awtonomaidd Tajicistan, ar y pryd, yn rhan o Weriniaeth Wsbecistan.

Ar ôl gwahanu'r SSR Tajicistan ac Wsbec yn 1931, tynnwyd yr arysgrif Tajiceg o'r faner. Ar ôl 1935, gwnaed newidiadau i'r wyddor Lladin Wsbec ac addaswyd y faner yn unol â hynny.

Pan ddechreuodd Wsbec ysgrifennu yr wyddor Gyrilig ym 1940, mabwysiadwyd baner newydd ar 16 Ionawr 1941, a oedd yn cynnwys enwau Wsbec a Rwsieg mewn ysgrifen Cyrilig.

Ar 29 Awst 1952, newidiodd y faner am y tro olaf yn ystod y cyfnod Sofietaidd. Roedd y faner hon yn cynnwys tri streipen llorweddol mewn coch, glas a choch gydag ymylon gwyn rhyngddynt. Yn y gornel darian roedd morthwyl a chryman a seren goch. Nid oes gan gefn y faner hon unrhyw arwyddion.

Ar 1 Medi 1991, datganodd Uzbekistan ei hun yn annibynnol tua thri mis cyn diddymu'r Undeb Sofietaidd.[5] Dechreuodd chwilio am faner genedlaethol newydd gyda chystadleuaeth i benderfynu ar y dyluniad newydd.[6] Derbyniwyd mwy na 200 o geisiadau a lluniwyd comisiwn i werthuso'r cynigion.[7] Derbyniwyd y cynllun buddugol ar 18 Tachwedd 1991 [6] ar ôl cael ei ddewis mewn sesiwn anghyffredin o'r Uwch Sofiet Undeb Wzbecistan.[8][9] Wsbecistan oedd y weriniaeth gyntaf o'r gweriniaethau annibynnol newydd yng Nghanolbarth Asia i ddewis baner newydd.[3]

Gellir gweld adlais o hen faner Sofietaidd Wsbecistan yn y dyluniad o faner gyda tair haen iddi a hefyd ffin denau naill ochr i'r haen neu fand canol.

Dolenni

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 744: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
  2. 2.0 2.1 name=EB>(Saesneg) Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 744: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
  3. 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 744: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
  4. (Saesneg) Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 744: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
  5. 5.0 5.1 (Saesneg) Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 744: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
  6. 6.0 6.1 (Saesneg) Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 744: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
  7. (Saesneg) Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 744: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
  8. (Saesneg) Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 744: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
  9. (Saesneg) Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 744: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).