Baner Syria
Mabwysiadwyd baner Syria ar 29 Mawrth, 1980, ar ôl cael ei defnyddio fel baner y Weriniaeth Arabaidd Unedig (Syria a'r Aifft) o 1958 i 1961. Mae'n cynnwys stribedi coch, gwyn a du, gyda sêr gwyrdd, sydd i gyd yn lliwiau pan-Arabaidd. Yn wreiddiol, bu'r ddwy seren yn cynrychioli Syria a'r Aifft, ond nawr dywedir eu bod yn cynrychioli Syria ac Irac.
Yn 1920, pan oedd dal yn drefedigaeth Ffrengig, defnyddiodd Syria baner drilliw o wyrdd, gwyn a gwyrdd, gyda baner Ffrainc yn y canton. Yn dilyn annibyniaeth newidwyd hyn i faner drilliw gwyrdd, gwyn a du gyda thair seren goch yn ei chanol (i gynrychioli tair talaith Syria). Mabwysiadwyd y faner gyfredol (ond gyda thair seren) pan cyfunodd Syria â'r Aifft, ond dychwelodd i'r hen faner ar ôl gadael yr undeb yn 1961.
Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)