Baner Israel

Oddi ar Wicipedia
Baner Israel

Mabwysiadwyd baner Israel ar 28 Hydref, 1948, pum mis ar ôl sefydliad y wladwriaeth. Mae'n dangos Seren Dafydd las ar gefndir gwyn, rhwng dwy linell las lorweddol. Dywedir bod y lliwiau'n cynrychioli lliwiau'r talit: siôl gweddi Iddewig. Cafodd ei dylunio gan David Wolfsohn ar gyfer y mudiad Seioniaeth yn 1891.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
Eginyn erthygl sydd uchod am Israel. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.