Baner Gwlad Iorddonen

Oddi ar Wicipedia
Baner Gwlad Iorddonen

Baner drilliw lorweddol o'r lliwiau pan-Arabaidd, gyda stribed uwch du, stribed canol gwyn, a stribed is gwyrdd, gyda thriongl coch yn yr hoist â seren saith-pwynt wen yn ei ganol yw baner Gwlad Iorddonen. Mae saith pwynt y seren yn cynrychioli saith pennill Al-Fâtiha y Coran. Cyflwynwyd y faner ym 1921, a mabwysiadwyd yn swyddogol ar 16 Ebrill 1928.

Mae Arfbais Gwlad Iorddonen hefyd yn cynnwys baner yn ei dyluniad, ond baner y Gwrthryfel Arabaidd gwelir yma, sef, sail baner gyfredol Gwlad Iorddonen a'r lliwiau Pan Arab a ddefnyddir gan sawl gwlad Arabaidd arall.

Dehongliad o'r Lliwiau[golygu | golygu cod]

Sgema Lliw Tecstil
Red The Llinach Hashemite, ymdrech waedlyd dros ryddid.
Gwyn The Llinach Umayyad, dyfodol llachar ac heddychlon.
Gwyrdd The Llinach Fatimid
Du The Llinach Abbasid,

Baneri eraill[golygu | golygu cod]

Ffynhonnell[golygu | golygu cod]

  • Alfred Znamierowski, The World Encyclopedia of Flags (Llundain: Southwater, 2010)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]