Al-Fâtiha
Gwedd
| Enghraifft o: | Swra |
|---|---|
| Awdur | God in Islam |
| Rhan o | Y Corân |
| Iaith | Quranic Arabic |
| Dechrau/Sefydlu | 631 |
| Genre | ysgrythur |
| Prif bwnc | Tilawa |
| Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
| Dynodwyr | |
| Quora | Surah-al-fatihah |

Al-Fâtiha ("Yr hyn sy'n agor", "agoriad") yw swra agoriadol y Corân. Mae'n un o destunau sylfaenol Islam, a elwir mewn rhai o'r Hadithau yn "Fam y Llyfr" (Umm al-Kitab) a "Mam y Corân" (Umm al-Qur'an). Fe'i hadroddir gan bob Mwslim uniongred ar ddechrau ei weddïo defodol, bum gwaith y dydd. Ar ôl adrodd y Fâtiha mae'n arferol dweud âmin (Amen). Mae'n un o'r swrâu byrraf yn y Corân, ac iddi 7 pennill (âya) byr yn unig:
- Yn enw'r Duw Trugarhaol, Rhoddwr pob daioni.
- Moliant i Dduw, Arglwydd y Bydysawd,
- Rhoddwr pob daioni, y Trugarhaol,
- Brenin Dydd y Farn Olaf.
- Fe'th addolwn; atat Ti yn unig trown am gymorth.
- Arwain ni hyd Llwybr Cyfiawnder,
- Llwybr y rhai sydd wedi derbyn Dy ddaioni, y rhai nad ennynant Dy ddicter, y rhai nad ydynt ar gyfeiliorn.