Baner yr Emiradau Arabaidd Unedig

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Baner yr Emiradau Arabaidd Unedig FIAV 111111.svg

Baner drilliw lorweddol gyda stribed uwch gwyrdd, stribed canol gwyn, a stribed is du, gyda stribed coch fertigol yn yr hoist yw baner yr Emiradau Arabaidd Unedig. Mae lliwiau'r faner yn lliwiau pan-Arabaidd, ond dywedir hefyd bod gwyrdd yn symboleiddio coed a ffrwythlondeb, gwyn yn symboleiddio niwtraliaeth, a du yn cynrychioli cyfoeth olew yr emiradau. Coch oedd lliw hanesyddol baneri'r emiradau unigol. Mabwysiadwyd y faner ar 2 Rhagfyr 1971.

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)