Baner Palesteina

Oddi ar Wicipedia
Baner Palesteina

Mae baner Palesteina yn faner a ddefnyddir gan Awdurdod y Palesteina (rhannau o'r Lan Orllewinol a Llain Gaza). Mae hefyd yn faner dyheuad am uno a chreu gwladwriaeth gydan dros diriogaeth yr hyn oedd Palesteina adeg Mandad Brydeinig, 1920 hyd at 1948.

Dyluniad[golygu | golygu cod]

Baner Gorllewin Sahara, gwahanol ddyluniad i'r ddwy ochr

Mae'r faner yn wyn, du, gwyrdd a choch mewn lliwiau Pan-Arabaidd. Mae'r triongl coch yn ymestyn un rhan o dair i'r faner. Yn 2006 deddfwyd y byddai'r triongl goch yn ymestyn ochwarter hyd y faner, fel ag yr oedd, i un trydydd o hyd y faner, hynny yw, yn hyrach na'r fersiwn flaenorol.[1]

Er mai hi yw baner Palesteina Arabaidd ers 1948, mae ganddi hanes llawer hirach. O 1920 i 1926 hi oedd baner Teyrnas Hijaz, o 1921 i 1928 baner Traws Iorddonen a 1958 y Ffederasiwn Arabaidd.

Mae'r faner hefyd yn union yr un fath â baner Plaid y Baath (plaid hanesyddol seciwlar a sosialaidd ei naws, gyda sawl cangen ar draws y gwledydd Arabaidd gan gynnwys Irac a Syria - dyna oedd plaid Saddam Hussein).

Mae cefn baner Gorllewin Sahara (yr ochr heb y gilgant) a'r seren union yr un fath â baner Palesteina.

Hanes[golygu | golygu cod]

Tan y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd yr y tiriogaeth a adnabwyd fel Palesteina yn perthyn i'r Ymerodraeth yr Otomaniaid. Ar ôl trechu a gwladychu Palesteina gan filwyr Prydain yn 1917, daeth y tir yn diriogaeth fandad dan awdurdod Cynghrair y Cenhedloedd. Ni arweiniodd y Mandad Prydeinig hwn o Balesteina (1923 i 1948) i ddechrau faner. Yn 1926, cyflwynwyd baner Blue Ensign gyda disg gwyn a label Tollau Palesteina i'r awdurdodau tollau. Yn 1927, gosodwyd Red Ensign ar longau a gofrestrwyd ar dir y Mandad. Mae'r disg gwyn yn dwyn y gair "Palesteina". Yn 1929, tynnwyd y gair "Customs" oddi ar y Blue Ensign. Defnyddiwyd y baneri tan ddiwedd y Mandad Brydeinig yn 1948.

Baner Palesteina yn cyhwfan oddi ar Sinema'r Alhambra Cinema, Jaffa, 1937

Ym mis Mawrth 1948, ar ôl ymadawiad Prydain, dewisodd Llywodraeth Gyffredinol Palesteina yn Gaza faner Gwrthryfel Arabaidd 1916 a ddefnyddiwyd yn erbyn yr Ymerodraeth Otomanaidd fel baner genedlaethol gwladwriaeth Arabaidd Palesteina. Yn wreiddiol, baner teyrnas Teyrnas Hejaz oedd y faner ac yn 1917 daeth yn symbol o'r Mudiad Cenedlaethol Arabaidd ac ym 1947, Plaid y Baath. Defnyddiwyd y faner yn Gaza nes i'r fyddin Aifft gyrraedd dau fis yn ddiweddarach.

Yn ystod cyfnod meddiannu a gweinyddu Llain Gaza gan Deyrnas yr Aifft (o 1952: Gweriniaeth yr Aifft, o 1958: Gweriniaeth yr Arabaidd Unedig) a'r Lan Orllewinnol gan wlad Traws Iorddonen (wedi 1950: Gwlad Iorddonen) o 1948 i 1967, defnyddiwyd baneri'r gwladwriaeth berthnasol (Aifft a Gwlad Iorddonen).

Mabwysiadodd y Palestiniaid y faner gyda'r streipiau yn y gyfres du, gwyn a gwyrdd yng Nghynhadledd Palesteina ar 18 Hydref 1948 yn Gaza. Dilynodd y Gynghrair Arabaidd y penderfyniad hwn. Ym mis Mai 1964, fe'i cadarnhawyd yn swyddogol yn ystod sefydlu Cyngor Cenedlaethol Palesteina (PNC) a sefydlu Sefydliad Rhyddhau Palesteina (Jeriwsalem) yn Jerwsalem.

Ers 1974, pan gyhoeddodd Cynghrair Arabaidd mai Mudiad Rhyddid Palesteina, y PLO yw unig gynrychiolydd cyfreithlon pobl Palesteina a'r Cenhedloedd Unedig yn rhoi statws arsylwr i'r PLO, cydnabyddir y faner yn rhyngwladol fel baner Palesteinaidd.

Esblygiad[golygu | golygu cod]

Baner Palesteina yn ninas newydd Rawabi

Ym 1988, cyhoeddodd Yasser Arafat wladwriaeth Palesteina trwy benderfyniad Cyngor Cenedlaethol Palesteina yn Algiers, ond nid yw eto wedi dod yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig gan mai dim ond tua 100 o wladwriaethau y mae'n ei gydnabod.

Yn Israel, mae'r faner wedi cael ei gwahardd ers 1967, ond mae'n aml yn cael ei goddef yn answyddogol ers arwyddo Cytundeb Oslo 1993.[2]

Ym mis Rhagfyr 2006, mewn cyfarfod rhwng Prif Weinidog Israel, Ehud Olmert a Arlywydd Palesteina, Mahmoud Abbas yn Jeriwsalem, gosodwyd baner Palesteina wrth ymyl baner Israel am y tro cyntaf.

Baneri Hanesyddol Palesteina Arabaidd[golygu | golygu cod]

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Balesteina. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato