Ehud Olmert
Gwedd
| Ehud Olmert | |
|---|---|
![]() | |
| 12th Prif Weinidog Israel | |
| Yn ei swydd 14 Ebrill 2006 – 31 Mawrth 2009 Prif Weinidog Mewn Gofal: 4 Ion 2006 – 14 Ebr 2006* | |
| Arlywydd | Moshe Katsav Shimon Peres |
| Dirprwy | Tzipi Livni |
| Rhagflaenwyd gan | Ariel Sharon |
| Dilynwyd gan | Benjamin Netanyahu |
| Maer Jeriwsalem | |
| Yn ei swydd Tachwedd 1993 – 2003 | |
| Rhagflaenwyd gan | Teddy Kollek |
| Dilynwyd gan | Uri Lupolianski |
| Manylion personol | |
| Ganwyd | 30 Medi 1945 Binyamina-Giv'at Ada |
| Plaid wleidyddol | Likud (1973–2006) Kadima (2006–presennol) |
| Priod | Aliza Olmert |
| Plant | 4 |
| Alma mater | Prifysgol Hebraeg Jeriwsalem |
Prif Weinidog Israel rhwng 2006 a 2009 (y 12fed i ddal y swydd), a chyn-arweinydd plaid Kadima yw Ehud Olmert (Hebraeg: אהוד אולמרט, IPA: [ɛˈhud ˈolmeʁt], ganed 30 Medi 1945). Dechreuodd Olmert weithredu fel Prif Weinidog dros dro ar 4 Ionawr 2006, ar ôl i Ariel Sharon ddioddef strôc yn ystod yr etholiadau. Enillodd ei blaid (Kadima) etholiad Mawrth 2006, gan alluogi Olmert i barhau yn ei swydd. Ar 4 Mai 2006, dyddiau ar ôl iddo ffurfio llywodraeth newydd, daeth yn Brif Weinidog swyddogol Israel.

Olmert a roddodd y "golau gwyrdd" i gychwyn y rhyfel yn erbyn Llain Gaza yn Rhagfyr 2008. Yn ôl un ffynhonnell Israelaidd, cafodd gydsyniad George W. Bush i wneud hynny ond mae Dick Cheney wedi gwadu hynny.[1]
