Saddam Hussein
| Saddam Hussein | |
|---|---|
| Ganwyd | صدام حسين المجيد 28 Ebrill 1937 Tikrit |
| Bu farw | 30 Rhagfyr 2006 o crogi Camp Justice |
| Man preswyl | As-Salam Palace |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Irac, Gweriniaeth Cyntaf Irac, Irac Ba'athist, Irac |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | person milwrol, ysgrifennwr, nofelydd, Q125804073, gwleidydd |
| Swydd | Prif Weinidog Irac, Arlywydd Irac, Prif Weinidog Irac, Ysgrifennydd Rhanbarthol Plaid Ba'ath Irac, Dirprwy Arlywydd Irac, Aelod o Reolaeth Ranbarthol Cangen Ranbarthol Irac |
| Adnabyddus am | Zabibah a'r Brenin, Y Castell Caerog |
| Plaid Wleidyddol | Plaid Ba'ath, Plaid Sosialaidd Arabaidd Ba'ath – Rhanbarth Irac |
| Mudiad | Saddamism, Ba'athism, Cenedlaetholdeb Arabaidd, sosialaeth Arabaidd, Seciwlariaeth |
| Tad | Hussein 'Abid al-Majid |
| Mam | Subha Tulfah al-Mussallat |
| Priod | Sajida Talfah, Samira Shahbandar |
| Plant | Uday Hussein, Qusay Hussein, Hala Hussein, Rana Hussein, Raghad Hussein |
| Perthnasau | Khairallah Talfah, Ali Hassan al-Majid, Mustapha Hussein, Q126901370, Hussein Kamel al-Majid |
| Gwobr/au | Urdd Stara Planina, Urdd José Martí, Urdd Mubarak Fawr, Urdd y Seren Iwgoslaf, Urdd Al Rafidain, Urdd Teilyngdod Dinesig, Urdd Isabel la Católica, Urdd Teilyngdod Cenedlaethol, urdd Al-Khalifa, Urdd y Faner Genedlaethol, Urdd al-Hussein bin Ali, Friendship Order, Uwch-Groes Urdd Isabel la Católica, Urdd Teilyngdod Sifil, Allwedd Detroit, Urdd y Gorchfygwr Mwyaf |
| llofnod | |
| Saddam Hussein | |
| Cyfnod yn y swydd 16 Gorffennaf 1979 – 9 Ebrill 2003 | |
| Rhagflaenydd | Ahmed Hassan al-Bakr |
|---|---|
| Olynydd | Jay Garner (fel Cyfarwyddwr Office for Reconstruction and Humanitarian Assistance) |
| Geni | |
Arlywydd Irac o 1979 hyd 2003 oedd Saddam Hussein Abd al-Majid al-Tikriti (Arabeg: صدام حسين عبد المجيد التكريتي) (28 Ebrill, 1937 - 30 Rhagfyr, 2006)
Cefndir
[golygu | golygu cod]Cafodd ei eni yn Tikrit.
Ei yrfa
[golygu | golygu cod]Dechreuodd Saddam ei yrfa wleidyddol yn rhengoedd is y Blaid Ba'ath Iracaidd. Mewn amser daeth i arwain y blaid honno a'i defnyddio fel sylfaen i'w rym gwleidyddol.
Cyn y rhyfel yn erbyn Irac cafodd ei gyhuddo gan George W. Bush o fod yn rhan o Echel y Fall (ynghyd â Gogledd Corea ac Iran).
Ei dal ar ôl y rhyfel
[golygu | golygu cod]Wedi i luoedd UDA a Phrydain oresgyn Irac aeth Saddamm ar ffo yn sgîl cwymp ei lywodraeth yn y rhyfel. Cafodd ei ddal gan filwyr yr Unol Daleithiau ar 13 Rhagfyr, 2003, tua 15 milltir y tu allan i'w dref enedigol Tikrit, canolfan ei rym.
Achos llys
[golygu | golygu cod]Ar 5 Tachwedd, 2006, cafodd ei ddyfarnnu'n euog o droseddau yn erbyn dynoliaeth gan lys ym Maghdad a chafodd ei ddedfrydu i farwolaeth i'w grogi. Apeliodd yn erbyn penderfyniad y llys ond ar Ŵyl San Steffan (26 Rhagfyr) 2006 gwrthodwyd yr apêl. Am 0300 GMT ar 30 Rhagfyr fe'i crogwyd. Dygwyd y cyn-arlywydd o'i garchar mewn gwersyll Americanaidd ym Maghdad i safle dienyddio gerllaw. Dangoswyd lluniau o'r weithred ar deledu Irac.