Baner Bahrain

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Baner Bahrain FIAV 111111.svg

Baner ddanheddog fertigol gyda'r traean ger yr hoist yn wyn a'r ddau draean ger y fly yn goch yw baner Bahrain.

Dan delerau Cytundeb Arforol Cyffredinol 1820, a wnaed Bahrein yn brotectoriaeth dan Brydain, wnaeth pob gwladwriaeth gyfeillgar yng Ngwlff Persia ychwanegu borderi gwynion i'w baneri i'w gwahaniaethu o longau môr-ladron. Daeth gwyn a choch yn lliwiau cyffredin ym maneri gwledydd y Gwlff. Yn wreiddiol roedd y llinell rhwng ochrau gwyn a choch baner Bahrein yn syth, ond mabwysiadwyd llinell ddanheddog ym 1932 i'w gwahaniaethu o faner Dubai.

Mabwysiadwyd y dyluniad cyfredol, gyda phum triongl yn y llinell ddanheddog i gynrychioli Pum Piler Islam, yn 2002.

Mae arfbais Bahrein yn seiliedig ar liwiau a dyluniad y faner genedlaethol.

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]