Protectoriaeth

Oddi ar Wicipedia

Gwladwriaeth led-annibynnol sydd yn dibynnu ar wladwriaeth arall yw protectoriaeth neu ddiffynwlad.[1] Yn ôl y gyfraith ryngwladol gyfoes, mae'n dynodi sefyllfa o benarglwyddiaeth ac ymreolaeth: tiriogaeth ddibynnol ydy'r brotectoriaeth sydd yn meddu ar rywfaint o hunanlywodraeth, fel arfer dros faterion mewnwladol, tra bo'r ben-wladwriaeth yn rheoli cysylltiadau tramor y wlad ac yn ei hamddiffyn yn filwrol.

Weithiau, câi'r gair protectoriaeth ei neilltuo i ddisgrifio'r berthynas hon yn hytrach na'r wladwriaeth ei hun, gan gyfeirio at y wlad ddibynnol fel gwladwriaeth amddiffynedig a'r wlad oruchaf fel gwladwriaeth amddiffynnol.

Gellir rhannu protectoriaethau yn bedwar math:

  1. Mân-wladwriaethau Ewropeaidd sy'n derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol ac sydd dan warchodaeth un o'u cymdogion, er enghraifft Liechtenstein (Y Swistir), Monaco (Ffrainc), a San Marino (Yr Eidal);
  2. Gwladwriaethau y tu allan i Ewrop dan warchodaeth gwladwriaethau eraill, er enghraifft protectoriaethau Ffrainc ym Moroco (1912–56) a Thiwnisia (1881–1956);
  3. Gwladwriaethau amddiffynedig y tu allan i Ewrop a chanddynt berthynas arbennig â gwladwriaethau amddiffynnol yn Ewrop, gan amlaf ar sail lled-gytundeb, a chydnabyddir yn sofran i raddau, er enghraifft, Taleithiau Tywysogion India, Taleithiau Maleia, Brwnei, Tonga, a Sansibar (dan warchodaeth y Deyrnas Unedig); Gorllewin Sahara (dan warchodaeth Sbaen); ac India'r Iseldiroedd (dan warchodaeth yr Iseldiroedd);
  4. "Protectoriaethau trefedigaethol", fel arfer mewn tiriogaeth heb drefn wleidyddol, ac weithiau ar sail lled-gytundeb (er enghraifft, cytundebau rhwng Teyrnas Buganda a Phrotectoriaeth Wganda, dan warchodaeth y Deyrnas Unedig). Roedd y mwyafrif o brotectoriaethau o'r fath hon yn Affrica, ac eithrio ambell un (er enghraifft, Protectoriaeth Brydeinig Ynysoedd Solomon).[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur yr Academi, "protectorate".
  2. John P. Grant a J. Craig Barker, Parry & Grant Encyclopædic Dictionary of International Law, 3ydd argraffiad (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2009), t. 487.