Baner y Philipinau

Baner y Philipinau. Cymesuredd, 1:2| Enghraifft o: | baner cenedlaethol |
|---|---|
| Lliw/iau | coch, gwyn, aur, glas |
| Dechrau/Sefydlu | 12 Mehefin 1898 |
| Dynodwyr | |
Baner y Philipinau yw baner genedlaethol Gweriniaeth y Philipinau. Enwyd yr ynysoedd ar ôl Felipe II, brenin Sbaen a bu'r ynysoedd yma yn y Dwyrain Pell yn un o drefedigaethau Sbaen am dros 300 mlynedd. Cafwyd gwrthryfel dros annibyniaeth a mabwysiadwyd y faner yma fel baner genedlaethol ar 12 Mehefin 1898 wedi llwyddiant yr wrthryfel.[1]
Dyluniad
[golygu | golygu cod]
Mae'n cynnwys dwy set llorweddol. Ar y brig, mae'r band glas yn symbol o heddwch, gwirionedd a chyfiawnder. Isod, ceir band coch yn symbol o wladgarwch a dewrder. Ar ochr y mast ceir triongl hafalochrog gwyn yn cwblhau'r lluniad. Mae'n cynrychioli cydraddoldeb a brwdfrydedd. Yng nghanol y triongl, gosodir haul wyth-pelydr euraid, yn cynrychioli'r wyth talaith gyntaf a reolwyd gan y gwladychwyr. Ym mhob cornel o'r triongl mae seren aur bum pwynt, un yn cynrychioli'r dair brif ynys: Luzon, Visayas, a Mindanao.
Mae hyd y faner ddwywaith hyd y lled, sy'n rhoi i ni gymesuredd o 1:2. Mae hyd ochrau y triongl wen yn hafal i led y faner. Lleolir pob seren fel bod ei begwn yn pwyntio tuag at y gornel y mae'n gorwedd.[2]
Hanes y Faner
[golygu | golygu cod]
Dyluniwyd y faner gan Emilio Aguinaldo yn 1897. Cafodd y faner gyntaf ei gwnïo yn 1898 yn Hong Kong gan Marcela de Agoncillo, ei ferch Lorenza, a nith Delfina Herbosa de Natividad1, José Rizal.[3] Cododd yr arweinydd dros annibyniaeth, Aguinaldo, y faner am y tro cyntaf ar ôl buddugoliaeth ym mrwydr Alapan yn erbyn Sbaen.[4]. Noder bod y glas yn y faner wreiddiol yn ychydig yn ysgafnach ei lliw nag yn y fersiwn gyfredol. Mae gan yr haul fwy o belydrau ond mae 8 pwynt eisoes. Ceir hefyd wyneb ar yr haul yn debyg i'r wyneb a geir ar Haul mis Mai ar faner yr Ariannin a baner Wrwgwái - dau gyn-drefedigaeth arall y Sbaen.
Yn yr un flwyddyn cafwyd gwrthryfel dros annibyniaeth gan un arall o drefedigaethau Sbaen, Ciwba, sydd hefyd â baner â thriongl ar ochr y mast, fel ag y mae gan baner weriniaethol Catalwnia, sy'n ymgeisio am annibyniaeth oddi ar Sbaen.
Hynodrwydd adeg Rhyfel
[golygu | golygu cod]
Mae gan faner Philippine nodwedd unigryw. Yn ystod y rhyfel, mae'r rheoliadau'n nodi bod yn rhaid ei godi a'i phen i lawr: fel bod y band coch ar dop y faner a'r band glas ar y gwaelod. Mae'r trefniant hwn yn gyson â'r lliwiau symbolaidd a nodir uchod.
Roedd yr arbenigrwydd hwn hefyd yn destun cyhoeddi ymddiheuriad mewn papur newydd lleol gan arweinwyr y rhwydwaith cymdeithasol Facebook a oedd wedi cyhoeddi, yn 2016, lun o'r faner a'i phen i lawr er nad oedd bwriad datgan rhyfel.[5]
Baneri Hanesyddol
[golygu | golygu cod]Mae esblygiad baner y Philipinau yn adlewyrchu hanes yr ynysoedd ers eu meddiannu gan Ymerodraeth Sbaen yn ystod teyrnasiad Felipe II, brenin Sbaen, ac yna eu brwydr dros annibyniaeth yn yr 19g ac yna ei hail-wladychu, i bob pwrpas gan Unol Daleithiau America yn ystod hanner cyntaf yr 20g.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ https://www.fotw.info/flags/ph.html
- ↑ Archifwyd 2007-12-05 yn y Peiriant Wayback(archived from the original on 2007-12-05).
- ↑ Site des drapeaux nationaux, page sur le drapeau des Philippines.
- ↑ name="maritimereview">{{http://maritimereview.ph/2016/07/12/the-battle-of-alapan-philippine-flag-day/|titre=The Battle of Alapan — Philippine Flag Day|éditeur=The Maritime Review|date=12 juillet 2016|auteur=Fidel Ramos|consulté le=4 décembre 2017}}
- ↑ https://www.20minutes.fr/insolite/1864827-20160613-facebook-accidentellement-declare-philippines-guerre|titre=Facebook[dolen farw] a accidentellement déclaré les Philippines en guerre|périodique=20 minutes|jour=13|mois=juin|année=2016|auteur=