Baner Ciwba
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | baner cenedlaethol, baner ![]() |
---|---|
Lliw/iau | glas, gwyn, coch ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 20 Mai 1849 ![]() |
![]() |


Mae gan faner Ciwba pum stribed llorweddol, tri'n las a dau yn wyn, gyda thriongl coch â seren wen yn ei ganol yn yr hoist. Dyluniwyd y faner yn 1848 ar gyfer y mudiad rhyddhad, oedd yn ceisio ennill annibyniaeth ar Sbaen a chael Ciwba'n dalaith Americanaidd. Roedd "y Seren Unig" (La Estrella Solitaria) yn cynrychioli seren arall i'w hychwanegu i faner yr Unol Daleithiau. Daw'r triongl o'r symbol Masonig am gydraddoldeb, tra bo'r pum stribed yn cynrychioli'r pum talaith oedd gan Giwba ar y pryd. Daeth Ciwba dan rym yr UD yn 1899, a mabwysiadwyd y faner yn swyddogol ar 20 Mai, 1902 pan ddaeth y wlad yn annibynnol (nad oedd Ciwba byth yn dalaith Americanaidd).
Ffynonellau[golygu | golygu cod]
- Complete Flags of the World (Dorling Kindersley, 2002)