Neidio i'r cynnwys

Baner Jamaica

Oddi ar Wicipedia
Baner Jamaica

Sawtyr aur sy'n rhannu baner Jamaica yn bedair rhan: trionglau'r brig a'r gwaelod yn wyrdd, a thrionglau'r hoist a'r fly yn ddu. Lliwiau pan-Affricanaidd yw lliwiau'r faner; hefyd yn unigol, mae aur yn cynrychioli'r haul, gwyrdd y tir, a du yn symboleiddio caledi.

Esboniad lleol y faner yw "er bod caledi gwyrdd yw'r tir ac mae'r haul yn tywynnu".

Y faner arfaethedig gyntaf

Mabwysiadwyd y faner ar 6 Awst 1962 yn dilyn cystadleuaeth gyhoeddus genedlaethol am faner yn sgil annibyniaeth yr ynys ar y Deyrnas Unedig. Roedd gan y dyluniad gwreiddiol stribedi llorweddol, ond ystyriwyd hyn yn rhy debyg i faner Tanganyika felly defnyddiwyd sawtyr.

Ffynonellau

[golygu | golygu cod]
  • Complete Flags of the World (Llundain: Dorling Kindersley, 2002)
Eginyn erthygl sydd uchod am faner neu fanereg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Jamaica. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.