Baner Estonia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Flag of Estonia.svg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolbaner cenedlaethol Edit this on Wikidata
Lliw/iauglas, du, gwyn Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu21 Tachwedd 1918 Edit this on Wikidata
Genrehorizontal triband Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Baner Estonia FIAV 110100.svg

Baner drilliw lorweddol o stribedi glas (i gynrychioli ffyddlondeb ac awyr, môr a llynnoedd Estonia), du (sy'n symbolaidd o ormes y gorffennol, pridd y wlad, a siaced ddu draddodiadol y gwerinwyr) a gwyn (am rinwedd, yr eira, rhisgl y fedwen, a brwydr Estonia am ryddid) yw baner Estonia.

Mabwysiadwyd y faner drilliw yn gyntaf gan gymdeithas o fyfyrwyr gwlatgarol ym mhrifysgol Tartu yn 1881, pan oedd Estonia'n dal i fod yn rhan o ymerodraeth Rwsia. Fe'i dewiswyd yn faner swyddogol y weriniaeth Estonaidd ar 24 Chwefror 1918. Gwaharddwyd y faner yn y cyfnod Sofietaidd, nes iddi ail-ymddangos yn answyddogol yn 1987. Cantiatawyd ei hedfan unwaith eto yn 1988, ac ail-fabwysiadwyd hi fel y faner genedlaethol ar 8 Mai, 1990 yn fuan cyn adfer annibyniaeth y wlad oddi wrth yr Undeb Sofietaidd yn 1991.

ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
Flag of Estonia.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Estonia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.