Neidio i'r cynnwys

Rhinwedd

Oddi ar Wicipedia
Rhinwedd
Enghraifft o:cysyniad, patrwm ymddygiad, math o werth Edit this on Wikidata
Mathmoral quality Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebvice, pechod Edit this on Wikidata
Rhan otermau seicoleg Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0d7lt edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF3090 edit this on wikidata
QuoraVertu edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Priodoledd ddaionus neu nodwedd ragorol, yn enwedig o safbwynt moesegol neu ddiwinyddol, yw rhinwedd.[1] Roedd syniad y bywyd rhinweddol yn sail i ddamcaniaeth foesol Aristotlys, ac mae ffurfiau ar foeseg rinweddol yn ddylanwadol hyd heddiw. Yn y traddodiad athronyddol a chrefyddol Ewropeaidd, ceir y pedair prif rinwedd sy'n tarddu o'r hen Roegiaid: pwyll, cyfiawnder, dirwest a chryfder neu nerth enaid. Sonir Cristnogion am dair rinwedd ychwanegol – ffydd, gobaith a chariad – gan ffurfio'r saith rinwedd a gyferbynnir â'r saith pechod marwol.[2] Ym maes athroniaeth wleidyddol, sonir am y rhinwedd ddinesig: yr agwedd a'r tymer sy'n addas wrth weithredu'r drefn wleidyddol yn effeithiol.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  rhinwedd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2016.
  2. (Saesneg) virtue (in Christianity). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2016.
  3. (Saesneg) civic virtue. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2016.