Baner Gwlad yr Iâ
Gwedd
Baner las â chroes wen a choch yw baner Gwlad yr Iâ. Fe'i mabwysiadwyd yn swyddogol ar 17 Mehefin 1944, y diwrnod y daeth Gwlad yr Iâ yn weriniaeth annibynnol o Ddenmarc. Fe'i defnyddiwyd yn answyddogol o 1913 ymlaen. Fe'i mabwysiadwyd ar 19 Mehefin 1915 i gynrychyioli Gwlad yr Iâ o fewn Teyrmas Denmarc. Fel baneri eraill gwledydd Llychlyn, fe'i seilir ar faner Denmarc, y Dannebrog.