Baner Slofenia

Oddi ar Wicipedia
Baner Slofenia

Baner drilliw lorweddol gyda stribed uwch gwyn, stribed canol glas, a stribed is coch gyda'r arfbais genedlaethol yn y canton yw baner Slofenia. Mae'r lliwiau yn lliwiau pan-Slafaidd. Defnyddiwyd baner drilliw gwyn-glas-coch yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg i efelychu baner Rwsia; edrychodd y Slofeniaid i'r Rwsiaid am gymorth wrth ennill annibyniaeth oddi ar Ymerodraeth Awstria. O 1919 tan 1991 roedd Slofenia'n rhan o Iwgoslafia; defnyddiwyd baner drilliw gwyn-glas-coch gyda seren goch a amlinellwyd yn aur (cafodd hyn ei ychwanegu gan Tito yn 1946) yn y canol. Mabwysiadwyd y dyluniad cyfredol ar 24 Mehefin, 1991; ychwanegwyd yr arfbais yn sgîl annibyniaeth ar Iwgoslafia.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)