Josip Broz Tito

Oddi ar Wicipedia
Josip Broz Tito
FfugenwTito Edit this on Wikidata
GanwydJosip Broz Edit this on Wikidata
7 Mai 1892 Edit this on Wikidata
Kumrovec Edit this on Wikidata
Bu farw4 Mai 1980 Edit this on Wikidata
Ljubljana Edit this on Wikidata
DinasyddiaethKingdom of Hungary, Teyrnas y Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid, Brenhiniaeth Iwcoslafia, Democratic Federal Yugoslavia, Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia Edit this on Wikidata
Alma mater
  • International Lenin School Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, machinist, gwladweinydd, gwrthryfelwr milwrol, Esperantydd, chwyldroadwr, locksmith Edit this on Wikidata
SwyddPresident of the Federal Executive Council of Yugoslavia, President of Yugoslavia, Secretary General of the Non-Aligned Movement Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolSocial Democratic Party of Croatia and Slavonia, Cynghrair Comiwnyddion Iwgoslafia Edit this on Wikidata
PriodPelageya Belousova, Lucija Bauer, Herta Haas, Jovanka Broz Edit this on Wikidata
PartnerElio Edit this on Wikidata
PlantŽarko Broz, Mišo Broz Edit this on Wikidata
LlinachBroz Edit this on Wikidata
Gwobr/auOrder of the People's Liberation, Order of Freedom (Yugoslavia), Urdd Buddugoliaeth, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Medal of Victory and Freedom 1945, Urdd Arwr Llafur Sosialaidd, Partisan Cross (Poland), Gwobr Jawaharlal Nehru am Ddeallusrwydd Rhyngwladol, Urdd Karl Marx, Urdd Karl Marx, Urdd Lenin, Urdd y Chwyldro Hydref, Grand Cross of the Order of the Bath, Arwr Genedlaethol Iwgoslafia, Seren Cyfeillgarwch y Bobl, Order of Suvorov, 1st class, Uwch Groes Urdd y Condor o'r Andes, Grand Cross of the Order of the Star of Romania, Médaille militaire, Uwch Groes Urdd Teilyngdod Cenedlaethol, Order of the Nile, Order of the People's Hero, Urdd Croes Grunwald, dosbarth 1af, Doethuriaeth Anrhydeddus Prifysgol Zagreb, Order the Red Banner, Czechoslovak War Cross 1939–1945, Uwch Groes Dosbarth Arbennig Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Uwch Cordon Prif Urdd yr Eurflodyn, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Uwch-seren Datganiad o Wasanaeth i Weriniaeth Awstria, Urdd Seren Mawr Iwgoslafia, Grand Cross of the Order of Military Virtue, Urdd y Seren Iwgoslaf, Urdd seren Romania, Uwch Groes Urdd Polonia Restituta, Uwch Groes Urdd Polonia Restituta, Order of the National Flag, 1st class, Military Order of the White Lion, Coler Urdd y Llew Gwyn, Československá medaile za zásluhy I. stupně, Order of the Slovak National Uprising, Order of San Marino, Marchog Uwch Groes gyda Choler Urdd Sant Olav, Urdd Brenhinol y Seraffim, Marchog Urdd yr Eliffant, Urdd Llew Aur Llinach Nassau, Uwch Cordon Urdd Leopold, Marchog Fawr Groes yn Urdd Llew yr Iseldiroedd, Uwch Groes Urdd y Gwaredwr, Uwch Goleg Urdd Sant'Iago de l'Épée, Uwch Goler Urdd Tywysog Harri, Uwch Groes Rhosyn Gwyn y Ffindir gyda Choler, Bathodyn anrhydeddus "Er Teilyngdod i Warsaw" Edit this on Wikidata
llofnod

Chwyldroadwr a gwladweinydd Iwgoslafaidd oedd y Marsial Josip Broz Tito (Serbo-Croateg: Јосип Броз Тито; ynganiad Serbo-Croateg: [jɔ̂sip brɔ̂ːz tîtɔ]; ganwyd Josip Broz; 7 Mai 18924 Mai 1980) a wasanaethodd mewn nifer o swyddi o 1945 hyd ei farwolaeth ym 1980.[1] Er i rai feirniadu ei arlywyddiaeth yn gyfnod awdurdodaidd,[2][3][4] ystyrid Tito gan y mwyafrif yn unben tadol o ganlyniad i lwyddiant ei bolisïau economaidd a diplomyddol,[5] ac roedd yn boblogaidd yn Iwgoslafia a thramor.[6] Ystyrid yn symbol o undod[7] a lwyddodd i gadw cydfodolaeth heddychlon ymysg cenhedloedd Iwgoslafia. Daeth i sylw'r byd fel un o brif arweinwyr y Mudiad Amhleidiol, ynghyd â Jawaharlal Nehru a Gamal Abdel Nasser.[8]

Ganwyd Josip, seithfed blentyn i Franjo a Marija Broz, ym mhentref Kumrovec yn Awstria-Hwngari, sydd heddiw yn rhan o Groatia. Cafodd ei alw i'r fyddin a daeth yn yr Uwch Sarsiant ieuengaf ym Myddin Awstria-Hwngari.[9] Fe'i anafwyd yn ddifrifol gan y Rwsiaid, a gipiasant i'w ddanfon i wersyll gwaith ym Mynyddoedd yr Wral. Brwydrodd yn Chwyldro Hydref ac ymunodd ag uned y Gwarchodlu Coch yn Omsk. Dychwelodd gartref i Deyrnas Iwgoslafia ac ymunodd â'r Blaid Gomiwnyddol.

Ef oedd Ysgrifennydd Cyffredinol (ac yn hwyrach Arlywydd) Cynghrair Comiwnyddion Iwgoslafia (1939–80), ac arweiniodd herwfilwyr y Partisaniaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd (1941–45).[10] Ar ôl y rhyfel, ef oedd Prif Weinidog (1943–63) ac yna Arlywydd (1953–80) Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia (SFRY). O 1943 hyd ei farwolaeth ym 1980, daliodd rheng Marsial Iwgoslafia, sef pencadlywydd Byddin Pobl Iwgoslafia (JNA), lluoedd milwrol y wlad. O ganlyniad i'w boblogrwydd tramor mewn dau floc y Rhyfel Oer, derbynodd rhyw 98 o addurniadau gan wledydd eraill, gan gynnwys y Légion d'honneur ac Urdd y Baddon. Angladd Tito oedd yr angladd gwladwriaethol mwyaf erioed.[11][12]

Tito oedd prif sefydlwr "yr ail Iwgoslafia", ffederasiwn sosialaidd a fodolodd o'r Ail Ryfel Byd hyd 1991. Er yr oedd yn un o sefydlwyr Cominform, ef oedd y yr aelod cyntaf o Cominform i herio hegemoni'r Undeb Sofietaidd a'r unig un a wnaeth hynny'n llwyddiannus. Cefnogodd ennill sosialaeth trwy ffyrdd annibynnol, mewn modd tebyg i sosialaeth genedlaethol, a gelwir ei ideoleg yn Titoaeth. Ef oedd Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf y Mudiad Amhleidiol, a hyrwyddodd bolisi o niwtraliaeth rhwng dau floc y Rhyfel Oer. Arweiniodd ei bolisïau economaidd a diplomyddol at ymchwydd economaidd yn Iwgoslafia yn y 1960au a'r 1970au.[13][14][15] Llethwyd cenedlaetholdeb rhanbarthol gan ei bolisïu mewnwladol, a hybodd "brawdoliaeth ac undod" chwe chenedl Iwgoslafia. Wedi marwolaeth Tito ym 1980, datblygodd tensiynau rhwng gweriniaethau'r ffederasiwn ac ym 1991 chwalodd Iwgoslafia gan arwain at gyfres o ryfeloedd yn y 1990au. Mae Tito yn barhau yn ffigur dadleuol yn y Balcanau.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Josip Broz Tito". Encyclopædia Britannica Online. Cyrchwyd 27 April 2010.
  2. Cohen, Bertram D.; Ettin, Mark F.; Fidler, Jay W. (2002). Group Psychotherapy and Political Reality: A Two-Way Mirror. International Universities Press. t. 193. ISBN 0-8236-2228-2.
  3. Andjelic, Neven (2003). Bosnia-Herzegovina: The End of a Legacy. Frank Cass. t. 36. ISBN 0-7146-5485-X.
  4. Tierney, Stephen (2000). Accommodating National Identity: New Approaches in International and Domestic Law. Martinus Nijhoff Publishers. t. 17. ISBN 90-411-1400-9.
  5. Shapiro, Susan; Shapiro, Ronald (2004). The Curtain Rises: Oral Histories of the Fall of Communism in Eastern Europe. McFarland. ISBN 0-7864-1672-6.
    "...All Yugoslavs had educational opportunities, jobs, food, and housing regardless of nationality. Tito, seen by most as a benevolent dictator, brought peaceful co-existence to the Balkan region, a region historically synonymous with factionalism."
  6. Melissa Katherine Bokovoy, Jill A. Irvine, Carol S. Lilly, State-society relations in Yugoslavia, 1945–1992; Palgrave Macmillan, 1997 p.36 ISBN 0-312-12690-5
    "...Of course, Tito was a popular figure, both in Yugoslavia and outside it."
  7. Martha L. Cottam, Beth Dietz-Uhler, Elena Mastors, Thomas Preston, Introduction to political psychology, Psychology Press, 2009 p.243 ISBN 1-84872-881-6
    "...Tito himself became a unifying symbol. He was charismatic and very popular among the citizens of Yugoslavia."
  8. Peter Willetts, The non-aligned movement: the origins of a Third World alliance (1978) p. xiv
  9. Ridley, Jasper (1996). Tito: A Biography. Constable. ISBN 0-09-475610-4 t. 59.
  10. Bremmer, Ian (2007). The J Curve: A New Way to Understand Why Nations Rise and Fall. Simon & Schuster. t. 175. ISBN 0-7432-7472-5.
  11. Josip Vidmar,Rajko Bobot, Miodrag Vartabedijan, Branibor Debeljaković, Živojin Janković, Ksenija Dolinar (1981). Josip Broz Tito – Ilustrirani življenjepis. Jugoslovenska revija. t. 166.CS1 maint: uses authors parameter (link)
  12. Ridley, Jasper (1996). Tito: A Biography. Constable. t. 19. ISBN 0-09-475610-4.
  13. Lampe, John R.; Yugoslavia as history: twice there was a country; Cambridge University Press, 2000 ISBN 0-521-77401-2
  14. Ramet, Sabrina P.; The three Yugoslavias: state-building and legitimation, 1918–2005; Indiana University Press, 2006 ISBN 0-253-34656-8
  15. Michel Chossudovsky, International Monetary Fund, World Bank; The globalisation of poverty: impacts of IMF and World Bank reforms; Zed Books, 2006; (University of California) ISBN 1-85649-401-2