Baner Monaco
Jump to navigation
Jump to search
Baner ddeuliw lorweddol gyda stribed uwch coch a stribed is gwyn yw baner Monaco. Lliwiau herodrol y Teulu Grimaldi yw coch a gwyn. Mabwysiadwyd y faner ar 4 Ebrill, 1881 dan y Tywysog Charles III.
Mae'n unfath â baner Indonesia, ac eithrio'u cyfraneddau (4:5 yw baner Monaco o gymharu â 2:3).
Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)