Baner Haiti

Oddi ar Wicipedia
Baner Haiti
Enghraifft o'r canlynolbaner cenedlaethol Edit this on Wikidata
Lliw/iauglas, coch, gwyn, gwyn Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu25 Chwefror 1986 Edit this on Wikidata
Genrehorizontal bicolor flag Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Baner Haiti
Baner Haiti am ddefnydd swyddogol a gwladwriaethol
Baner Haiti, 1964–1986

Baner ddeuliw lorweddol o stribed glas ar ben stribed coch yw baner Haiti. Mabwysiadwyd ar 18 Mai, 1803, ac ail-fabwysiadwyd ar 25 Chwefror, 1986 ar ôl cael ei disodli yn ystod cyfnod unbennaeth deuluol François Duvalier a'i fab Jean-Claude. Yn ystod eu hamser mewn grym, o 1964 i 1986, defnyddiwyd baner fertigol o stribedi du a choch.

Dywedir crewyd y faner las a choch ar ôl i faner drilliw Ffrengig cael eu rhwygo gan y gwrthryfelwr Jean-Jacques Dessalines yn 1803. Yna cafodd y ddwy ran ar y pennau eu pwytho at ei gilydd yn llorweddol i greu baner newydd.

Ers 1843 mae arfbais Haiti wedi'i gosod ar banel gwyn yng nghanol y faner am ddefnydd swyddogol a gwladwriaethol. Gosodir yr arfbais yn yr un modd pan ddefnyddiwyd y faner arall yn ystod cyfnod y Teulu Duvalier.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)


Eginyn erthygl sydd uchod am faner neu fanereg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Haiti. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.