Uthr Bendragon


Arweinydd Brythonig a thad y Brenin Arthur yn ôl traddodiad oedd Uthr Bendragon (weithiau Wthyr Bendragon). Ystyr "Pendragon" yw "prif bennaeth".
Chwedl Sieffre o Fynwy[golygu | golygu cod]
Ceir ei hanes yn llawn yn fersiwn Sieffre o Fynwy o chwedl Arthur yn ei Historia Regum Britanniae. Dywed fod Uthr yn fab i Cystennin II ac yn frawd i Emrys Wledig. Magwyd ef yn Llydaw er mwyn osgoi gelyniaeth Gwrtheyrn, a chynorthwyir hwynt gan Emyr Llydaw. Dychelant i Brydain, a gorchfygu Gwrtheyrn. Daw Emrys yn frenin, ac mae Uthr yn arwain byddin i Iwerddon i gynorthwyo'r dewin Myrddin i ddod a meni oddi yno i adeiladu Côr y Cewri.
Gan fod Emrys yn wael ar y pryd, mae Uthr yn arwain byddin yn erbyn Paschent, mab Gwrtheyrn, a'i gyngheiriaid Sacsonaidd. Ar y ffordd i faes y frwydr, mae'n gweld comed ar ffurf draig, ac mae Myrddin yn ei dehongli fel proffwydoliaeth o farwolaeth Emrys ac Uthr yn dod yn frenin. Wedi ennill y frwydr, cymer Uther yr enw "Pendragon". Erbyn iddo ddychwelyd ma Emrys wedi ei wenwyno, ac mae'n olynu Emrys ar orsedd Ynys Brydain. Ar ei orchymyn, gwneir dwy ddraig o aur, ac mae'n defnyddio un fel ei faner.
Syrth Uthr mewn cariad a gwraig Gorlois, Dug Cernyw, Eigr (Igraine). Caiff gymorth y dewin Myrddin, sy'n newid ei ffurf fel bod Eigr yn meddwl mai ei gŵr ydyw. Mae Uthr yn cysgu gydag Eigr yng Nghastell Tintagel, a chenhedlir Arthur. Lleddir Gorlois yr un noson, ac mae Uthr yn priodi Eigr. Yn nes ymlaen, gwenwynir Uthr, ac mae Arthur yn ei ddilyn ar yr orsedd.
Ffynonellau Cymreig[golygu | golygu cod]
Ceir cyfeiriadau cynharach at Uthr yn y traddodiad Cymreig; er enghraifft yn y gerdd ymddiddan Pa Gwr yw y Porthawr yn Llyfr Du Caerfyrddin lle dywedir fod Mabon fab Modron yn was i Uthr. Mae cerdd arall, Ymddiddan Arthur a'r eryr, yn crybwyll nai i Arthur o'r enw Eliwlad, oedd yn fab i Fadog fab Uthr; byddai Madog felly yn frawd i Arthur. Ymddengys Uthr mewn un o Drioedd Ynys Prydain hefyd, "Tair Prif Hud Ynys Prydain", lle dywedir iddo ddysgu hud i Menw fab Teirgwaedd, sy'n ymddangos fel cymeriad yn chwedl Culhwch ac Olwen.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]
- Meic Stephens (gol.) Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 1986) ISBN 0-7083-0915-1