Cystennin II
Cystennin II | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
Chwefror 0316 ![]() Arles ![]() |
Bu farw |
Ebrill 0340 ![]() Achos: lladdwyd mewn brwydr ![]() Aquileia ![]() |
Dinasyddiaeth |
Rhufain hynafol, Yr Ymerodraeth Fysantaidd ![]() |
Galwedigaeth |
gwleidydd ![]() |
Swydd |
ymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig ![]() |
Tad |
Cystennin I ![]() |
Mam |
Fausta ![]() |
Llinach |
Constantinian dynasty ![]() |
Flavius Claudius Constantinus, a adnabyddir fel Cystennin II (c. 316 – Ebrill 340), oedd ymerawdwr Rhufain rhwng 9 Medi 337 a'i farwolaeth.
Cystennin oedd ail fab Cystennin I, a'r mab hynaf o'i briodas a Fausta. Ganed ef yn Arles, a chafodd ei fagu fel Cristion.
Ar 1 Mawrth 317 cyhoeddwyd ef yn "Gesar", ac yn 323, yn saith oed, cymerodd ran yn ymgyrch ei dad yn erbyn y Sarmatiaid. Yn ddeg oed cafodd ei benodi'n llywodraethwr Gâl. Cymerodd ran fel pennaeth y gwersyll yn ymgyrch ei dad yn erbyn y Gothiaid yn 332.
Wedi marwolaeth ei dad yn 337, daeth Cystennin II yn ymerawdwr ynghyd â'i ddau frawd, Constantius II a Constans. Rhannwyd yr ymerodraeth rhwng y tri brawd yn Panonia ym mis Medi yr un flwyddyn, a chafodd Cystennin Gâl, Prydain a Hispania.
Bu gan Cystennin ran yn nadleuon crefyddol y dydd, gan amddiffyn uniongrededd Cyngor Nicea a gwrthwynebu Ariaeth. Rhyddhaodd Athanasius o Alexandria, prif amddiffynydd uniongrededd, a gadael iddo ddychwelyd i'w esgobaeth. Roedd ei frawd Constantius II, ar y llaw arall, yn cefnogi yr Ariaid.
Ar y cychwyn yr oedd Cystennin yn gyfrifol am ofalu am fuddiannau ei frawd iau, Constans, oedd wedi derbyn Italia, Affrica ac Iliria. Pan gyrhaeddodd Constans i oed yn 340, gwrthododd Cystennin drosglwyddo grym iddo. Gorchfygwyd Cystennin gan Constans ym mrwydr Aquileya yn yr Eidal, a lladdwyd Cystennin yn y frwydr.
O'i flaen : Cystennin I |
Ymerodron Rhufain Cystennin II gyda Constantius II a Constans. |
Olynydd : Constantius II a Constans |