Aquileia
Gwedd
| Math | cymuned |
|---|---|
| Poblogaeth | 3,128 |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Gefeilldref/i | Piran |
| Nawddsant | Hermagoras and Fortunatus |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Endid datganoli rhanbarthol Udine |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 37.44 km² |
| Uwch y môr | 5 ±1 metr |
| Yn ffinio gyda | Fiumicello Villa Vicentina, Grado, Terzo d'Aquileia |
| Cyfesurynnau | 45.77°N 13.37°E |
| Cod post | 33051 |
![]() | |

Tref a chymuned (comune) a safle hen ddinas Rufeinig yng ngogledd-ddwyrain yr Eidal yw Aquileia (Friwleg: Acuilee, Slofeneg: Oglej). Saif yn nhalaith Udine a rhanbarth Friuli-Venezia Giulia. Saif tua 6 km o'r Môr Adriatig, ar afon Natisone. Roedd y boblogaeth yn 2004 yn 3,491.
Sefydlwyd Aquileia yn y flwyddyn 181 CC, a daeth yn ganolfan bwysig, gyda nifer o ffyrdd yn arwain i ogledd-ddwyrain yr ymerodraeth. Roedd y 4g OC yn gyfnod arbennig o lewyrchus i'r ddinas, a daeth yn ganolfan eglwysig bwysig, gyda'r esgob yn dwyn y teitl "Patriarch". Yn 452, anrheithiwyd y ddinas gan Attila.
