William R. P. George

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
William R. P. George
Ganwyd 20 Hydref 1912 Edit this on Wikidata
Bu farw 20 Tachwedd 2006 Edit this on Wikidata (94 oed)
Galwedigaeth cyfreithiwr, awdur, bardd Edit this on Wikidata
Gwobr/au Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig Edit this on Wikidata

Bardd a chyfreithiwr oedd William Richard Philip George CBE (20 Hydref 191220 Tachwedd 2006), ac yr oedd yn nai i David Lloyd George a fu'n brifweinidog y Deyrnas Unedig.

Fe'i ganwyd yng Nghricieth ac yr oedd ei dad, William George yn frawd iau i David Lloyd George.

Ar waethaf tueddiadau Rhyddfrydol y teulu, roedd yn gefnogol i Blaid Cymru, a bu'n gynghorydd annibynnol ar Gyngor Sir Gwynedd o 1967 tan 1996.

Roedd yn fardd ac fe'i coronwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerfyrddin 1974 am ei bryddest "Tân". Derbyniodd ddoethuriaeth oddi wrth Prifysgol Cymru yn 1988, a bu'n archdderwydd o 1990 hyd 1993.