Gwilym Lloyd George

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gwilym Lloyd George

Gwleidydd Cymreig oedd Gwilym Lloyd George (4 Rhagfyr 1894 - 14 Chwefror 1967). Bu'n Ysgrifennydd Cartref o 1954 hyd 1957.

Ganed ef yng Nghricieth, yn fab i David Lloyd George a'i wraig gyntaf Margaret Lloyd George. Daeth ei chwaer, Megan Lloyd George, yn wleidydd amlwg hefyd, ond troes hi at y Blaid Lafur. Addysgwyd ef yng Ngholeg yr Iesu, Caergrawnt, ac yn 1914, comisyniwyd ef yn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.

Bu'n Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Sir Benfro o 1922 hyd 1924 ac eto o 1929 hyd 1950, ond erbyn diwedd y 1940au, roedd yn Rhyddfrydwr Annibynnol, mewn cyngheair a'r Blaid Geidwadol. O 1951 hyd 1957 roedd yn Aelod Seneddol Gogledd Newcastle upon Tyne fel Rhyddfrydwr Cenedlaethol. Bu'n Weinidog Amaeth o 1951 hyd 1954, ac yn Ysgrifennydd Cartref a Gweinidog Dros Faterion Cymreig o 1954 hyd ei ymddeoliad yn 1957.