Neidio i'r cynnwys

Sgwrs Nodyn:Navbox

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Doppelganger

[golygu cod]

Mae gennym ni hyn yn barod: gweler Nodyn:Blwch llywio. Ailgyfeirio i hynny? Gyda llaw, Glen, Adam sydd wedi gwneud y rhan fwyaf o'r gwaith ar y nodiadau llywio ayyb. Rhag ofn i ti wastraffu dy amser yn creu rhagor o nodiadau sydd gennym yn barod - neu os wyt ti'n meddwl am drio ailwampio/uwchraddio rhai o'r rheiny - efallai basai'n syniad i chi'ch dau gydweithio ar hyn? (Paid â gofyn i mi - medra i ymdopi â'r rhai syml ond mae rhai o'r nodiadau 'ma yn ddychrynllyd o gymhleth!). Diolch. Anatiomaros 16:00, 11 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

O drat! Dyna pam dwi'n cofio cael sgwrs fel hyn yn barod yn y Caffi! Ie, ailgyfeirio iddo os ti'n lico :) Pam dwi wedi bod yn gweithio ar lawer o nodiadau yn ddiweddar oedd oherwydd erthyglau fel Artemis - doedd y blwch gwybodaeth ddim yn gweithio, felly ar ôl imi greu nodyn, rhaid creu nodyn arall, ac ar ôl creu'r nodyn hwnnw, rhaid creu un arall ayyb ayyb (!!!!). Ha. Xxglennxx 16:07, 11 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Ia, dwi'n gwybod am hynny. Mae'n digwydd bron bob tro dwi'n trio creu nodyn! Mewn gwirionedd basai'n syniad da cael ailgyfeiriadau o'r enw Saesneg i'r un Cymraeg ymhob achos; fel yna mae'n haws i rywun sydd ddim yn giamstar ar y pethau technegol 'ma gopio stwff o en? Unwaith eto, Adam sy'n gwybod be di be yn well na neb. Yn y cyfamser mi ailgyfeiriaf hyn. Anatiomaros 16:16, 11 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Ie, dwi'n cytuno â ti. Dyna pam pan fy mod yn creu nodyn (neu dempled hyd yn oed), dwi wastad yn cynnwys yr interwicis felly gall pobl eraill weld beth yw beth :) Xxglennxx 16:59, 11 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Syniad da. Cofia rhoi nhw yn y categori 'Nodiadau' hefyd, neu un o'r is-gategoriau os poss, fel bod pobl yn medru ffeindio nhw wedyn. (Nodyn i fi fy hun: categori arall sydd angen gwaith arno!) Anatiomaros 17:06, 11 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Iawn, dim problem. Ceisiaf gofio, haha! Actewli, af i nawr a'u hychwanegu i'r categori :D Xxglennxx 17:25, 11 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]