Hiraeth

Oddi ar Wicipedia
Saudade (1899), gan Almeida Júnior

Teimlad o alar, gofid a cholled am fod oddi cartref neu o golli rhywun yw hiraeth (Cernyweg: hyreth, Llydaweg: hiraezh, Hen Wyddeleg: sirecht). Gair cyfansawdd ydyw: "hir" ac "aeth". Ynghlwm yn y gair hefyd mae'r elfen o ddymuniad neu ddyhead dwys.[1] Ceir geiriau tebyg mewn Galisieg (morriña) ac mewn Portiwgaleg (saudade).

Cofnodwyd y gair am y tro cyntaf yn y 13g yn Y Gododdin: Blwydyn hiraether gwyr gatraetham maeth ysmeu.

Mae Hiraeth hefyd yn ffilm gan Graham Bowers, ac yn enw ar sawl darn o farddoniaeth.

Dyfyniadau[golygu | golygu cod]

Hen bennill:

Hiraeth mawr a hiraeth creulon,
Hiraeth sydd yn torri 'nghalon,
Pan fwy' dryma'r nos yn cysgu
Fe ddaw hiraeth ac a'm deffry

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru; Gwas Prifysgol Cymru; Cyfrol ll, tud 1871.
Chwiliwch am hiraeth
yn Wiciadur.