Cenhinen Bedr
| Cenhinen Bedr | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Monocotau |
| Urdd: | Asparagales |
| Teulu: | Amaryllidaceae |
| Genws: | Narcissus |
| Rhywogaeth: | N. pseudonarcissus |
| Enw deuenwol | |
| Narcissus pseudonarcissus L. | |

Planhigyn lluosflwydd o'r genws Narcissus yw'r genhinen Bedr (lluosog: cennin Pedr). Mae gan y rhan fwyaf o'r math hwn flodau melyn, mawr. Allan o fylbiau y maent yn egino a'u tyfu a hynny fel arfer yn y gwanwyn cynnar.
Symbol Cenedlaethol
[golygu | golygu cod]Y genhinen Bedr yw blodyn cenedlaethol Cymru.
Dim ond yn ddiweddar y daeth y Cennin Pedr yn rhyw fath o arwyddlun cenedlaethol inni. Y Genhinen (Leek) ydi’r un go iawn? Aeth pobl ‘barchus’ ddiwedd y 19g i ystyried y Genhinen braidd yn ‘gomon’, ac fe aeth llawer, yn enwedig y merched, i wisgo Cenhinen Bedr ar Ddygwyl Dewi yn hytrach na’r Genhinnen draddodiadol. Fe wnaeth Lloyd George ei ran hefyd, oherwydd dyna oedd o yn ei wisgo ar Fawrth 1af. Ymddangosodd yn gyffredin ar ddogfennau swyddogol oedd yn ymwneud â Chymru o hynny ymlaen.[1]