David Lloyd George

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Lloyd George)
Jump to navigation Jump to search
David Lloyd George
David Lloyd George


Cyfnod yn y swydd
7 Rhagfyr 1916 – 22 Hydref 1922
Rhagflaenydd Herbert Henry Asquith
Olynydd Andrew Bonar Law

Canghellor y Trysorlys
Cyfnod yn y swydd
12 Ebrill 1908 – 25 Mai 1915
Rhagflaenydd Herbert Henry Asquith
Olynydd Herbert Henry Asquith

Geni 17 Ionawr 1863
Chorlton-on-Medlock, Manceinion, Lloegr
Marw 26 Mawrth 1945(1945-03-26) (82 oed)
Llanystumdwy, Cymru
Etholaeth Bwrdeistrefi Caernarfon
Plaid wleidyddol Rhyddfrydol
Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
NLW Square Logo.Logo Sgwar LLGC.jpg Llyfrgell Genedlaethol Cymru
David Lloyd George
HWB
David Lloyd George

Cytundeb Versailles
Corfflu'r Fyddin Gymreig - Tasg Rhifedd

Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Roedd David Lloyd George, Iarll 1af Lloyd George o Ddwyfor (17 Ionawr 186326 Mawrth 1945), a adnabyddid fel y 'Dewin Cymreig', yn wleidydd ac yn Brif Weinidog ar y Deyrnas Unedig rhwng Rhagfyr 1916 a Hydref 1922. Hyd yma, ef yw'r unig Gymro i ddal y swydd; y Gymraeg oedd ei famiaith.[1] Caiff ei gydnabod fel pensaer y wladwriaeth les[2]. Ef oedd prif weinidog Rhyddfrydol diwethaf y Deyrnas Unedig. Ym mlwyddyn olaf ei oes cafodd ei ddyrchafu'n iarll gan y brenin Siôr VI.

Yn Chorlton-on-Medlock, Manceinion, Lloegr, y cafodd ei eni. Treuliodd ei blentyndod ym mhentref Llanystumdwy, Eifionydd, o 1864 hyd 1880, lle cafodd ei fagu ar aelwyd Gymraeg gan ei fam weddw a'i ewythr Richard Lloyd. Daeth yn gyfreithiwr gyda phractis yn Nghricieth erbyn 1885.

David Lloyd George yw’r gwladweinydd rhyngwladol mwyaf a gynhyrchodd Cymru erioed. Bu ei ddylanwad yn drwm ar wleidyddiaeth, nid yn unig yng Nghymru a Phrydain, ond hefyd yn Ewrop, yn enwedig yn ei rôl fel un o’r ‘Tri Mawr’ a fu’n gyfrifol am lunio Cytundeb Versailles wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Bu'n aelod seneddol Rhydfrydol am hanner can mlynedd, gan wasanaethu mewn llywodraeth fel Llywydd y Bwrdd Masnach (1905-08), Canghellor y Trysorlys (1908-15), Gweinidog Arfau (1915-16) a Gweinidog Rhyfel (1916). Ym mis Rhagfyr 1916 daeth yn Brif Weinidog ar ganol y Rhyfel Byd Cyntaf yn dilyn ymddiswyddiad Herbert Asquith.[3][4]

Roedd yn un o Brif Weinidogion mwyaf amlwg Prydain yn ystod yr ugeinfed ganrif, ac arweiniodd y wlad drwy gyfnod argyfyngus yn ei hanes yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.[5] Roedd yn adnabyddus am ei sgiliau fel arweinydd ac fel siaradwr effeithiol a huawdl. Medrai ennill cefnogaeth a brwdfrydedd gwahanol gynulleidfaoedd ar draws y deyrnas ar gyfer gwahanol ymgyrchoedd ac achosion. Er ei fod yn erbyn mynd i ryfel ar y dechrau yn 1914, erbyn 1918 roedd yn cael ei ddisgrifio ym Mhrydain fel "Y Dewin Cymreig" a'r ‘y dyn a wnaeth ennill y rhyfel’.[6] Mae’n cael ei gofio hyd heddiw hefyd am ei ddefnydd o filwyr Prydeinig yn Iwerddon ac am fod yn brif negodydd Cytundeb Eingl-Wyddelig a sefydlodd Wladwriaeth Rydd Iwerddon, ond drwy wneud hynny rhannwyd yr ynys yn ddwy.


Teulu a bywyd cynnar  [golygu | golygu cod y dudalen]

David Lloyd George tua 1890. Gan John Thomas

Ganwyd Lloyd George yn Chorlton-on-Medlock, Manceinion, Lloegr ar 17 Ionawr, 1863. Ei dad oedd William George o Drefwrdan, Sir Benfro a’i fam oedd Elizabeth Lloyd o Lanystumdwy, Gwynedd. Cyfarfu’r ddau pan oedd William George yn dysgu yn Ysgol Troed-yr-allt, Pwllheli ac wedyn symudodd y teulu i Fanceinion lle ganwyd David Lloyd George. Cyn diwedd y flwyddyn symudodd y teulu yn ôl i Sir Benfro i gadw tyddyn. Nid oedd William George yn ddyn iach yn gorfforol ac roedd yn cael ei flino gan iselder ysbryd. Ym Mehefin 1864 bu farw William George ac o fewn pedwar mis symudodd Elizabeth, ei weddw, a’i phlant, Ellen a David, yn ôl i Lanystumdwy i fyw at Richard, ei brawd. Ymhen ychydig fisoedd ganwyd plentyn arall iddi a enwyd yn William ar ôl ei dad.

Felly er mai yn Lloegr y ganwyd ef, Llanystumdwy yn Eifionydd fu ei ‘gartref’ erioed. Dyma fro mebyd ei fam ac yma y bu’n byw tan roedd yn ddwy ar bymtheg. Bu brawd ei fam, Richard Lloyd (Uncle Lloyd) yn ddylanwad mawr ar y David Lloyd George ifanc. Mewn gwirionedd roedd yn athro ac arweinydd i’w nai hyd 1917, pan fu farw yn ei wythdegau. Gweithiai fel crydd. Roedd yn Rhyddfrydwr cryf o ran ei wleidyddiaeth ac yn gapelwr cadarn ei argyhoeddiad.[7]  

Priododd ei wraig gyntaf, Margaret Owen, merch fferm leol, ar Ionawr 24, 1888 a chawsant pump o blant: Richard (1889), Mair (1890, bu farw yn 1907), Olwen (1892), Gwilym (1894) a Megan (1902). Bu farw’r Fonesig Margaret yn 1941 ac yn 1943 ail-briododd Lloyd George. Ei ail wraig oedd Frances Stevenson ac ym Medi 1944 ymgartrefodd y ddau yn Tŷ Newydd, Llanystumdwy. Ar Ionawr 1af 1945 cafodd ei ddyrchafu yn Iarll Lloyd George o Ddwyfor. Bu farw ar Mawrth 26, 1945 yng Nghricieth yn 82 oed, ac fe’i claddwyd ar lan afon Dwyfor yn Llanystumdwy.[8][9]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi iddo lwyddo yn arholiadau rhagbaratoawl Cymdeithas y Gyfraith cafodd waith fel prentis-gyfreithiwr yn swyddfa Breese, Jones a Casson ym Mhorthmadog yn 1878. Yn dilyn anghydweld yn y swyddfa ym Mhorthmadog sefydlodd ei fusnes ei hun yng Nghricieth yn 1885. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd roedd yn dangos diddordeb mewn gwleidyddiaeth ac roedd ganddo syniadau radicalaidd. Cymerodd ran flaenllaw yn yr etholiad cyffredinol yn etholaeth Meirionnydd yn 1885.

Dangosodd ei fod yn ddyn radical ei ddaliadau yn achos mynwent Llanfrothen, lle dadleuodd bod yr un hawliau gan Anghydffurfwyr i gael eu claddu ym mynwent Eglwys y plwyf ag oedd gan Eglwyswyr. Rhoddodd yr achos lwyfan cyhoeddus i Lloyd George gael ei weld fel amddiffynnwr hawliau anghydffurfiol. Aeth yr achos i’r Llys Apêl yn Llundain, a gyda’r fath sylw llwyddodd i gael ei enwebu fel ymgeisydd y Blaid Ryddfrydol yn etholaeth Bwrdeisdrefi Caernarfon. Daeth yn adnabyddus am lefaru ac amddiffyn achosion radicalaidd dro ar ôl tro. Etholwyd ef yn Aelod Seneddol Caernarfon ar 10 Ebrill, 1890. Hon oedd ei fuddugoliaeth gyntaf mewn cyfres o bedwar ar ddeg o etholiadau a frwydrodd rhwng 1880 a 1945.[10]

Yn y 1890au, gyda mudiad gwladgarol Cymru Fydd ar ei anterth, defnyddiodd ei safle fel Aelod Seneddol i ddadlau'n frwd yn Senedd San Steffan dros achosion fel Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru a hunanlywodraeth ("Home Rule" neu "Ymraeolaeth") i Gymru, yr Alban ac Iwerddon. Ond daeth trai ar ffawd Cymru Fydd a throdd Lloyd George fwyfwy at wleidyddiaeth Brydeinig, gan godi yn rhengoedd y Blaid Ryddfrydol. Gwrthwynebodd y rhyfel gwladychol yn Ne Affrica a adnabyddir fel Rhyfel y Boer ac am gyfnod bu'n amhoblogaidd yn Lloegr, ond ni chollodd ei gefnogaeth frwd yng Nghymru, yn enwedig am iddo aros yn gefnogol I’r ymgyrch i Ddatgysylltu'r Eglwys.[11]

Y Blaid Ryddfrydol[golygu | golygu cod y dudalen]

David Lloyd George a Winston Churchill yn 1907

Roedd David Lloyd George yn aelod o Gabinet y Llywodraeth Ryddfrydol a ddaeth i rym wedi Etholiad Cyffredinol 1906. Roedd wedi ei benodi yn Llywydd y Bwrdd Masnach flwyddyn ynghynt, ac yn 1908 penodwyd ef yn Ganghellor y Trysorlys gan Herbert Asquith, y Prif Weinidog. Un o’r pethau cyntaf a wnaeth Lloyd George fel Canghellor y Trysorlys oedd ceisio gwarchod pobl llai ffodus, fel pobl dlawd, pobl anabl, plant a’r henoed. Dyma pam y vyflwynodd ‘Gyllideb y Bobl’ yn 1909. Roedd hon yn gyllideb a oedd yn datgan rhyfel yn erbyn tlodi ymhlith y grwpiau mwyaf anghenus yn y gymdeithas. Byddai’n codi trethi’r dosbarth uwch er mwyn ariannu’r gyllideb. Dyma’r gyllideb a ddefnyddiodd i gyflwyno pensiwn i'r henoed ac yswiriant iechyd cenedlaethol. Yn 1911 cyflwynodd y Mesur Yswiriant Cenedlaethol a fyddai’n golygu bod y llywodraeth, cyflogwyr a gweithwyr yn talu tuag at gynlluniau yswiriant iechyd a diweithdra.[12][13] Ac yntau'n aelod pwysig o’r llywodraeth ac wedyn yn Brif Weinidog, roedd Lloyd George yn darged cyson ar gyfer protestiadau'r Swffragetiaid a alwai am bleidlais i ferched. Gwaeddodd Swffragetiaid ar draws ei areithiau yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac ym Mhafiliwn Caernarfon, lle cafodd y protestwyr (yn ddynion a merched) eu curo gan y dorf. Ym 1912 cafwyd protest enwocaf y Swffragetiaid yng Nghymru pan ddychwelodd Lloyd George i’w bentref genedigol Llanystumdwy i agor neuadd newydd y pentref. Gwaeddodd y Swffragetiaid ar draws ei araith. Cafodd y merched eu llusgo o’r neuadd yn filain iawn a'u curo. Tynnwyd dillad un o’r merched a bu bron i un arall gael ei thaflu ar y creigiau oddi ar bont Afon Dwyfor gerllaw.[14]

Pan ddechreuoddy Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914 petrusodd Lloyd George cyn ei chefnogi, ond unwaith iddo benderfynu ei bod yn rhyfel angenrheidiol bu'n gefnogwr brwd: mae rhai haneswyr yn gweld hyn fel y cyfnod y bradychodd Lloyd George ei egwyddorion drwy gefnogi rhyfel imperialaidd a rhoi pellter mawr rhyngddo a'r syniad o gael hunanlywodraeth i Gymru. Yn 1915 penodwyd ef yn Weinidog Arfau o 1915 hyd 1916 ac yn Rhagfyr 1916 daeth yn Brif Weinidog gyda phwerau eang iawn am ei bod yn adeg rhyfel.


Gweinidog Arfau  [golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1915 penodwyd ef yn Weinidog Arfau gyda chyfrifoldeb dros sicrhau bod mwy o arfau, fel bwledi a bomiau, yn cael eu cynhyrchu a bod y lluoedd arfog ar feysydd y gad yn derbyn digon o arfau ac adnoddau. Cyn hynny doedd Prydain ddim yn cynhyrchu digon o sieliau ac arfau i gyflenwi’r milwyr ar Ffrynt y Gorllewin. Sylweddolodd hefyd mor bwysig oedd merched i’r gweithlu yn ystod y rhyfel ac felly recriwtiodd hwy i weithio mewn ffatrïoedd arfau. Bu hyn yn allweddol bwysig o ran rhoi’r bleidlais i rai ohonynt ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.

Bu Lloyd George yn llwyddiannus iawn fel Gweinidog Arfau ond roedd hefyd wedi cael llond bol ar arafwch ac aneffeithlonrwydd ei Lywodraeth ei hun yn y Rhyfel. Roedd yn anghydweld â’r Prif Weinidog, Asquith, yn arbennig ynghylch gorfodaeth filwrol. Cefnogai Lloyd George y polisi yn gyhoeddus ac fe gryfhawyd ei safle oddi fewn y Cabinet pan fu’n rhaid i Asquith gyflwyno mesur gorfodaeth ar ddechrau 1916. Gwanhawyd awdurdod Asquith yn sgil beirniadaeth i'w Lywodraeth pan benderfynwyd saethu pedwar ar ddeg o’r arweinwyr cenedlaethol oherwydd eu rôl yng Ngwrthryfel y Pasg yn Nulyn, Iwerddon.[15]

Gweinidog Rhyfel a Phrif Weinidog  [golygu | golygu cod y dudalen]

David Lloyd George yn 1915

Yn dilyn marwolaeth Kitchener, a foddwyd mewn ymosodiad torpedo gan yr Almaenwyr, penodwyd Lloyd George yn Ysgrifennydd Gwladol y Rhyfel ym mis Gorffennaf 1916. Rhoddodd hyn Lloyd George mewn safle cryfach fyth i herio’r Prif Weinidog, ac yn Rhagfyr 1916 daeth yn Brif Weinidog yn lle Asquith. Un o’r pethau cyntaf a wnaeth fel Prif Weinidog oedd creu Cabinet Rhyfel o 5 unigolyn a fyddai’n rheoli popeth ynglyn â’r rhyfel. Lloyd George oedd cadeirydd y Cabinet. Un o’i orchestion pwysig fel Prif Weinidog oedd cyflwyno’r system gonfoi yn 1917 er mwyn amddiffyn llongau oedd yn cludo bwyd i Brydain, ar draws Cefnfor yr Iwerydd, rhag cael eu suddo gan longau tanfor yr Almaenwyr.[6] Rhoddodd Lloyd George ei stamp personol ei hun ar bopeth a wnai’r Llywodraeth, ac roedd ei bersonoliaeth a'i arweinyddiaeth yn allweddol o ran arwain Prydain i fuddugoliaeth yn 1918. Pan ddaeth heddwch yn 1918 Lloyd George oedd ‘y dyn a enillodd y Rhyfel’.

Sicrhaodd llwyddiant David Lloyd George yn y Rhyfel ei le fel Prif Weinidog pan enillodd fwyafrif llethol yn Etholiad Cyffredinol Rhagfyr 1918.[16]   

Corfflu’r Fyddin Gymreig  [golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Lloyd George yn gefnogol i’r syniad o sefydlu Byddin Gymreig, fel y dangosodd mewn araith a draddododd yn Neuadd y Frenhines yn Langham Place, Llundain ar Medi 19, 1914. Gyda’r Rhyfel Byd Cyntaf newydd ddechrau, ac yntau ar y pryd yn Ganghellor y Trysorlys, pwysleisiodd mor bwysig oedd hi bod gwledydd pwerus fel Prydain yn helpu i amddiffyn gwledydd bach fel Gwlad Belg a Serbia. Apeliodd at hanes a gwladgarwch Cymru er mwyn hyrwyddo’r syniad o sefydlu byddin Gymreig. Dyma oedd hedyn cychwyn Corfflu’r Fyddin Gymreig neu ‘Byddin Lloyd George’ fel y daeth i gael ei hadnabod. Cyn pen diwedd mis Medi 1914 roedd cyfarfod wedi ei gynnal yn 11 Stryd Downing, a chynhaliwyd cyfarfod yng Nghaerdydd er mwyn lansio cynllun ar gyfer sefydlu Corfflu Cymreig, gydag Iarll Plymouth yn Gadeirydd ac Owen W. Owen yn Ysgrifennydd. Penderfynwyd y byddai Cymru a Sir Fynwy yn codi Corfflu cyfan, a hynny gyda sêl bendith Ysgrifennydd Gwladol y Rhyfel, sef Arglwydd Kitchener.[17][18]

Penodwyd y Parchedig John Williams, Brynsiencyn, Ynys Môn, a chyfaill i Lloyd George, yn Gaplan i’r Fyddin Gymreig yn ddiweddarach.[19] Erbyn diwedd Chwefror 1915 roedd y Corfflu Cymreig yn cynnwys 20,000 o ddynion, sef digon ar gyfer sefydlu un Adran o’r ddwy Adran a gynlluniwyd. Cafodd yr Adran gyntaf hon ei hadnabod fel y 38ain Adran Gymreig a fu’n brwydro yn ddiweddarach ym Mrwydr Coed Mametz, Gorffennaf 1916.

Cytundeb Versailles 1919[golygu | golygu cod y dudalen]

Fel Prif Weinidog Prydain, David Lloyd George oedd prif gynrychiolydd Prydain yng Nghynhadledd Heddwch Paris, lle drafftiwyd Cytundeb Versailles ym Mehefin 1919. Pwrpas y cyfarfod oedd trafod telerau heddwch ar ôl diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd yn un o benseiri'r Cytundeb a fu’n gyfrifol am ail-lunio ffiniau gwledydd newydd yn Ewrop ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Nid oedd yn awyddus i lunio cytundeb llym a oedd yn gwneud i’r Almaen ‘dalu’ am y rhyfel, ond ni lwyddodd i osgoi hynny oherwydd roedd y galwad am ddial yn gryf iawn, yn enwedig yn Ffrainc. Dadl rhai haneswyr dylanwadol iawn yw mai’r amodau llym a osodwyd ar yr Almaen yng Nghytundeb Versailles, ac effeithiau’r rhain ar economi ac ysbryd pobl yr Almaen, oedd rhai o’r ffactorau pwysicaf wnaeth arwain at boblogrwydd Hitler a’i bolisi tramor yn ystod y 1930au, ac yn y pen draw felly at yr Ail Ryfel Byd.

Erbyn 1922 roedd wedi ymddeol o fywyd gwleidyddol ac nid ymgymerodd ag unrhyw swydd mewn awdurdod byth eto.[20][21]

David Lloyd George yn 1930 gan John Lavery.

Cyfarfod Hitler yn Berchesgaten[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym Mis Medi 1936 treuliodd David Lloyd George bythefnos yn yr Almaen gan gyfarfod ag Adolf Hitler ddwywaith. Roedd Hitler wedi bod mewn grym am dair blynedd a hanner ac wedi llwyddo i ddileu diweithdra ar raddfa eang, a hyn oedd y rheswm pam roedd Lloyd George yn awyddus i'w gyfarfod. Trafodwyd y sefyllfa ryngwladol, amaethyddiaeth a materion cymdeithasol. Roedd Lloyd George yn frwdfrydig iawn am agweddau'r Almaen tuag at ddiweithdra, yswiriant iechyd, a mudiadau lles a hamdden.[22][23]

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 26 Mawrth 1945, ar ôl salwch byr, bu farw David Lloyd George yn dawel yng Nghricieth, ac yntau'n 82 oed, ac fe'i claddwyd yn Llanystumdwy ar lan afon Dwyfor, dafliad carreg o weithdy’r crydd lle magwyd ef. Cynlluniwyd y beddrod gan Clough Williams-Ellis, sef pensaer Portmeirion rhwng Penrhyndeudraeth a Phorthmadog.

Y cyfnod diweddar[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng ngwanwyn 2013 cyhoeddodd y Swyddfa Bost stamp gyda llun ohono i ddathlu 150 mlynedd ers ei eni.[24]

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffilmiau a llyfrau[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwelwch hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Harnden, Toby (2011). "Dead Men Risen: The Welsh Guards and the Real Story of Britain's War in Afghanistan". p. 11. Quercus, 2011
  2. Gwefan Saesneg y BBC; adalwyd 15 Ebrill 2013
  3. "David Lloyd George | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2020-06-09.
  4. "Yr Ail Ryfel Byd | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2020-06-09.
  5. "Who was David Lloyd George?". hwb.gov.wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-06-09.
  6. 6.0 6.1 "David Lloyd George" (PDF). HWB. Cyrchwyd 9 Mehefin 2020.
  7. "Bywyd Cynnar David Lloyd George | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2020-06-09.
  8. "Teulu David Lloyd George | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2020-06-09.
  9. "Frances a Jennifer | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2020-06-09.
  10. "Dechrau Gyrfa Wleidyddol David Lloyd George | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2020-06-10.
  11. "Ymgyrchoedd Cymru | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2020-06-10.
  12. "Cyllideb y Bobl a'r Wladwriaeth Les | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2020-06-10.
  13. "Arddangosfa David Lloyd George". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 2020-06-10.
  14. "Pleidlais i Ferched | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2020-06-10.
  15. "David Lloyd George, Gweinidog dros Arfau | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2020-06-10.
  16. "David Lloyd George y Prif Weinidog | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2020-06-10.
  17. ""Byddin Gymreig yn y maes" a sefydlu'r Corfflu Cymreig yn 1914". Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 2013-10-04. Cyrchwyd 2020-06-10.
  18. "Corfflu'r Fyddin Gymreig - Tasg Rhifedd". hwb.gov.wales. Cyrchwyd 2020-06-10.
  19. Parri, Harri,. Gwn Glan a Beibl Budr : John Williams, Brynsiencyn, A'r Rhyfel Mawr. Caernarfon. t. 78. ISBN 978-1-907424-64-9. OCLC 893632196.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  20. "Cytundeb Versailles". hwb.gov.wales. Cyrchwyd 2020-06-10.
  21. "Versailles | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2020-06-10.
  22. "Yr Ail Ryfel Byd | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2020-06-10.
  23. "Ymweliad â Hitler, a'r Ail Ryfel Byd | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2020-06-10.
  24. Gwefan ITV; adalwyd 15 Ebrill 2013.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]


Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Edmund Swetenham
Aelod Seneddol dros Fwrdeistrefi Caernarfon
18901945
Olynydd:
Seaborne Davies
Rhagflaenydd:
T. P. O'Connor
Tad y Tŷ
19291945
Olynydd:
Edward Turnour
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Herbert Henry Asquith
Canghellor y Trysorlys
12 Ebrill 190825 Mai 1915
Olynydd:
Herbert Henry Asquith
Rhagflaenydd:
Herbert Kitchener
Ysgrifennydd Gwladol Rhyfel
6 Mehefin 19165 Rhagfyr 1916
Olynydd:
Edward Stanley
Rhagflaenydd:
Herbert Henry Asquith
Prif Weinidog y Deyrnas Unedig
7 Rhagfyr 191622 Hydref 1922
Olynydd:
Andrew Bonar Law
Swyddi gwleidyddol pleidiol
Rhagflaenydd:
Herbert Henry Asquith
Arweinwr y Blaid Rhyddfrydol
19261931
Olynydd:
Herbert Samuel