William Ewart Gladstone

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Gwir Anrhydeddus
William Ewart Gladstone
FRS
1271754717 william-e.-gladstone.jpg
Prif Weinidog y Deyrnas Unedig
Mewn swydd
15 Awst 1892 – 2 Mawrth 1894
Monarch Victoria
Rhagflaenwyd gan Robert Cecil (Marcwis Salisbury)
Dilynwyd gan Archibald Primrose (Iarll Rosebery)
Mewn swydd
1 Chwefror 1886 – 20 Gorffennaf 1886
Monarch Victoria
Rhagflaenwyd gan Marcwis Salisbury
Dilynwyd gan Marcwis Salisbury
Mewn swydd
23 Ebrill 1880 – 9 Mehefin 1885
Monarch Victoria
Rhagflaenwyd gan Benjamin Disraeli
Dilynwyd gan Marcwis Salisbury
Mewn swydd
3 Rhagfyr 1868 – 17 Chwefror 1874
Monarch Victoria
Rhagflaenwyd gan Benjamin Disraeli
Dilynwyd gan Benjamin Disraeli
Manylion personol
Ganed (1809-12-29)29 Rhagfyr 1809
62 Rodney Street, Lerpwl, Lloegr
Bu farw 19 Mai 1898(1898-05-19) (88 oed)
Penarlâg, Sir y Fflint
Dinesydd Prydeiniwr
Plaid gwleidyddol
Priod Catherine Glynne (25 Gorffennaf 1839)
Plant William, Agnes, Stephen, Catherine, Mary, Helen, Henry, Herbert
Alma mater Eglwys Crist, Rhydychen
Signature Llofnod mewn inc

Gwleidydd Rhyddfrydol a Phrif Weinidog Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon bedair gwaith (1868-1874, 1880-1885, 1886, a 1892-1894) oedd William Ewart Gladstone (29 Rhagfyr, 1809 - 19 Mai, 1898). Parhaodd ei yrfa fel gwleidydd am gyfnod o dros 60 mlynedd. Caiff ei gyfri'n un o Brif Weinidogion y Deyrnas Unedig a chopiwyd rhai o'i ddulliau economaidd cynnil gan Thatcher.

William Gladstone oedd pedwerydd mab Syr John Gladstone, masnachwr o Lerpwl, a siaradodd ef gydag acen Lerpwl trwy gydol ei oes. Aeth William i Goleg Eton ac wedyn i Goleg Eglwys Grist, Rhydychen i astudio'r Clasuron a Mathemateg. Roedd e am fod yn offeiriad, ond yng Nghymdeithas Trafod Undeb Rhydychen (Oxford Union debating society) gwnaeth ei enw fel areithiwr arbennig.

Barn eraill amdano[golygu | golygu cod y dudalen]

Hoff ddiddordeb W. E. Gladstone oedd torri coed

Roedd ef a'r Frenhines Victoria'n anghytun a'i gilydd drwy gydol ei oes; unwaith fe ddywedodd hi amdano, "He always addresses me as if I were a public meeting". Roedd yn cael ei alw'n "Grand Old Man", fodd bynnag. Dywedodd David Lloyd George amdano: "What a man he was! Head and shoulders above anyone else I have ever seen in the House of Commons. I did not like him much. He hated Nonconformists and Welsh Nonconformists in particular, and he had no real sympathy with the working-classes. But he was far and away the best Parliamentary speaker I have ever heard. He was not so good in exposition."[1] Galwyd ef gan Disraeli yn "God's Only Mistake".[2]

Nododd Margaret Thatcher yn 1983: "We have a duty to make sure that every penny piece we raise in taxation is spent wisely and well. For it is our party which is dedicated to good housekeeping—indeed, I would not mind betting that if Mr Gladstone were alive today he would apply to join the Conservative Party".[3] Yn 1996, dywedodd: "The kind of Conservatism which he and I...favoured would be best described as 'liberal', in the old-fashioned sense. And I mean the liberalism of Mr Gladstone, not of the latter-day collectivists".[4] Mynnodd y cyn-Ganghellor Nigel Lawson, mai Gladstone oedd "y Canghellor gorau a fu erioed".[5]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd Gladstone ei ethol i San Steffan am y tro cyntaf yn 1832, fel Aelod Seneddol Ceidwadol Newark, Swydd Nottingham. Roedd yn erbyn y ddeddf i ddileu caethwasanaeth yn 1833, a'r deddfau ffatrioedd i wellha bywyd y gweithwyr.

Dadleuodd dro ar ôl tro dros Iwerddon Rydd, a llwyddodd i fynd a Mesur Home Rule for Ireland drwy'r Tȳ Cyffredin yn 1886; pan daflwyd ei gynnig dros hunan lywodraeth ymddiswyddodd fel Prif Weinidog.[6]

Ei gastell ym Mhenarlâg[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1839 priododd Catherine Glynne (6 Ionawr 181214 Mehefin 1900) merch Stephen Glynne (8ed Barwn Castell Penarlâg) yn y castell yn Sir y Fflint. Drwy ei brawd Syr Stephen Glynne (a oedd yn Aelod Seneddol Ceidwadol) y gwnaeth hi gyfarfod â William Gladstone. Cawsant wyth o blant: William, Agnes, Helen, Henry, Herbert, Mary, Catherine Jessie a John.

Roedd teulu'r Glynne-iaid o Benarlâg yn olrhain eu llinach yn ôl at deulu'r Glyniaid o Lynllifon (i Syr William Glynne o a chynt).[7]

Gofeb farmor i Gladstone a'i wraig yn Eglwys San Deiniol, Penarlâg.


Gladstone oedd sefydlydd Llyfrgell Gladstone (a alwyd yn 'Llyfrgell Deiniol Sant' tan y 2010au), ym Mhenarlâg sy'n dal i fod ar agor i'r cyhoedd.

W. E. Gladstone
Llyfrgell Sant Deiniol: cofeb iddo; newidiwyd yr enw i 'Lyfrgell Gladstone'.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Wrigley, t. 247.
  2. Gardham, Duncan (12 June 2008). "David Davis's Victorian inspiration: William Gladstone". The Daily Telegraph (London).  Check date values in: |date= (help)
  3. Margaret Thatcher, 'Speech to the Conservative Party Conference', 14 Hydref 1983.
  4. Margaret Thatcher, ‘Keith Joseph Memorial Lecture', 11 Ionawr 1996.
  5. Nigel Lawson, The View From No. 11: Memoirs of a Tory Radical (Bantam, 1992), t. 279.
  6. Gwefan Saesneg y BBC
  7. Gwefan y Llyfgrgell Genedlaethol

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Oherwydd ei gysylltiadau â Chymru ar adeg pan fu Rhyddfrydiaeth yn cael cefnogaeth y mwyafrif o'r Cymry, ceir sawl llyfr am Gladstone yn y Gymraeg. Er enghraifft:

  • Griffith Ellis, William Ewart Gladstone: Ei fywyd a'i waith (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1898). Cofiant swmpus darlunedig.

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]